Cafwyd gêm gynderfynol gyffrous i dîm cyntaf Llanbed prynhawn ’ma wrth iddyn nhw herio Abertyleri i lawr ym Monymaen.
Ar ôl perfformiad anhygoel i Lanbed yn y rownd ddiwethaf yn erbyn Llanharan, roedd y bechgyn yn gobeithio gwneud yr un peth eto heddiw yn erbyn tîm diguro Abertyleri yn rownd gynderfynol cwpan Adran 3.
Ond boddi wrth ymyl y lan oedd hanes Llanbed heddiw wedi gêm dda o gyfeiriad y ddau dîm. Roedd safon y ddau dîm yn weddol gyfartal drwy’r gêm ond gwelwyd Abertyleri yn achub y blaen ym munudau ola’r gêm.
Abertyleri 24, Llanbed 17.
Sgoriwyd y ceisiadau gan Meirion Lloyd a Jac Williams a chymerwyd y ciciau llwyddiannus gan Osian Evans.
Braf oedd gweld llawer o gefnogwyr Llanbed yn gwylio. Aeth llond dau fws o’r clwb bore ma i ddangos eu cefnogaeth. Ond ni fydd perfformiad yn y stadiwn cenedlaethol i Lanbed eleni yn anffodus. Pob dymuniad da i Abertyleri.
Perfformiad da iawn gan fechgyn Llanbed a fydd yn ymdrechu am weddill y tymor i ennill y gynghrair.