Llond lle o Chwerthin yn Noson Sioe’r Cardis

Llwyfan i ddiddanwyr lleol yn Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
comedi

Llun oddi ar dudalen facebook Sioe’r Cardis 2014.

Clipiau fideo o uchafbwyntiau’r noson gan Mari Lewis.


Roedd Noson Gomedi Sioe’r Cardis yn llwyddiant hyd yn oed cyn iddi ddigwydd ar nos Wener 5ed Mai.  Bu’n rhaid newid y lleoliad o Glwb Rygbi Llanbed i Neuadd y Celfyddydau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant oherwydd y galw uchel am docynnau.

Roedd y galw mor uchel am docynnau oherwydd mai cymeriadau lleol oedd y diddanwyr.  Rhai ohonyn nhw’n adnabyddus am adrodd storïau doniol o ddydd i ddydd wrth eu gwaith, ond yn llai cyfarwydd â chamu i’r llwyfan a gwneud hynny’n gyhoeddus o bosib.

Arweinydd y noson oedd Eleri Siôn, yn wreiddiol o Giliau Aeron.  Cyflwynydd teledu a radio yw hi lle mae pawb yn cyfarwydd â’i harddull fywiog a chartrefol.  Roedd hi’n adnabod ei chynulleidfa ac yn llawn hiwmor wrth lywio’r noson a chyflwyno’r diddanwyr.

Deuawd oedd ar y llwyfan gyntaf, sef Wyn (Bach) Thomas, Ystrad Aeron a Hywel (Gas) Lloyd, Ffosyffin – y ddau ohonyn nhw’n ddau blymer yn ôl eu galwedigaeth.  Wyn â’i iaith liwgar a Hywel â’i straeon coch.  Efallai y gallai rhai dwt twtio eu harddull a chynnwys eu straeon, ond nid yn ystod y noson hon.  Roedd y gynulleidfa’n morio chwerthin ar yr hyn oedd gyda nhw i’w rhannu ac yn gwerthfawrogi eu naturioldeb.

Ffarmwr ifanc lleol yw Guto Jones, Llanfair Fach.  Efallai’n adnabyddus i rai ar lwyfan cystadlaethau’r Ffermwyr Ifanc a Phantomein Felinfach.  Cafodd ymateb gwych yn adrodd straeon smala yn arddull ddiniwed Ifan Tregaron.

Llywydd y noson oedd yr actores Gillian Elisa o Lanbed, ac yn hytrach nag araith llywydd arferol, soniodd am lawer o droeon trwstan ei bywyd gan ddod â’r cyfan yn fyw i’r gynulleidfa gyda’i dawn actio.

Yn dilyn hanner amser, tro Tess Price o Ystrad Aeron oedd e.  Mae llawer o’i chyn gwsmeriaid yn Siop Walltau Felinfach yn cofio ei ffraethuneb wrth iddi dorri eu gwallt.  Dim ond unwaith cyn hyn roedd hi wedi rhoi cynnig ar stand yp cyhoeddus, a hynny yn Nhafarn y Vale.  Yma ar lwyfan Neuadd y Celfyddydau roedd Tess yn ymddangos yn hollol gartrefol ac roedd ganddi amseru perffaith i bob stori bersonol.

I gloi’r noson, croesawyd Carwyn Blaeney o Bontsian i’r llwyfan.  Dyma actor a diddanwr adnabyddus sydd wedi perfformio ar deledu a llwyfanau a chafwyd perfformiad cyflawn a Chymreig ganddo.

Dywedodd Menna Davies Cadeirydd Pwyllgor Canol Sir Ceredigion ar gyfer codi arian i’r Sioe Fawr,

Y bwriad wrth drefnu’r noson oedd codi hwyl yn ogystal â chodi arian a chawsom noson arbennig yn llawn hiwmor iach cefn gwlad. Roedd pob un a gamodd ar y llwyfan â chysylltiad uniongyrchol â Cheredigion a braf oedd cael rhoi llwyfan iddynt. Mi wnaeth hyd yn oed Llywydd y noson, Gillian Elisa, ddarparu elfen o gomedi yn ei hanerchiad hithau hefyd.

Ychwanegodd Menna,

Mae’n diolch ni fel Pwyllgor yn mynd i bob un a gymerodd ran ac hefyd i bawb a ddaeth i gefnogi. Maen nhw’n dweud fod hiwmor yn donic ac yn sicr fe gawsom lond trol o donic yn Neuadd y Celfyddydau nos Wener.

Diolch yn fawr i’r pwyllgor am y syniad gwych ac am drefnu noson mor dda.  Hyfryd oedd mynychu noson gomedi o’r fath yn lleol a chael mwynhau noson hollol Gymraeg oedd yn cyfateb os nad yn well na sioeau Saesneg tebyg ar lwyfannau fel yn y Palladium a’r Glee Club.