Llwyddiannau’r ardal yn ‘Steddfod Llŷn ac Eifionydd

Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies
IMG_5281
IMG_5276

Mae ardal Clonc yn browd iawn o’n plant a’n ieuenctid lleol.

Yr wythnos yma bydd nifer o’r ardal yn teithio lan i Foduan i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd.

Yn wir, gyda dim ond deuddydd o gystadlu mae sawl gwobr wedi dod nôl i’r ardal yn barod, sef:

Dydd Sadwrn:

Unawd Cerdd Dant o dan 12 oed – Nanw Melangell Griffiths-Jones, Cwrtnewydd 1af

Unawd Alaw Werin o dan 12 oed – Nanw Melangell Griffiths-Jones, Cwrtnewydd 3ydd

Dydd Sul:

Unawd Soprano / Alto 12 ac o dan 16 oed – Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrtnewydd 1af

Unawd Soprano / Alto 12 ac o dan 16 oed – Alwena Mair Owen, Llanllwni 2il

Monolog 12 a dan 16 oed – Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrtnewydd 2il

Unawd Cerdd Dant 12 ac o dan 16 oed – Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrtnewydd 2il

Llefaru Unigol 12 ac o dan 16 oed – Trystan Bryn Evans, Harford 3ydd.

Trystan Bryn Evans

Pob lwc i bawb sy’n cystadlu eto o hyn i ddiwedd yr wythnos.

Hefyd, ymfalchiwn yn llwyddiannau ieuenctid o ardal eangach sef Peredur Llywelyn, Llandysul @carthen360 – Perfformio Darn Digri Agored, Cymdeithas Eisteddfodau Cymru 1af a hefyd Llefaru Unigol o’r Ysgrythur o dan 16 oed 1af a Fflur McConnell, Aberaeron @aeron360 – Llefaru Unigol o’r Ysgrythur o dan 16 oed 2il.