Llwyddiant CFfI Llanllwni

Rali CFfI Sir Gâr 2023

gan Betsan Jones
344493378_240967225179073

Llysgenhadon CFfI Sir Gâr 2023-2024

Ar ddydd Sadwrn 13eg o Fai cynhaliwyd Rali CFfI Sir Gâr ar Faes y Sioe Nanyci Caerfyrddin.

Bu cynifer o’r aelodau yn cymryd rhan a chafwyd y canlyniadau canlynol: Owain Dunn 1af Saethu colomenod clau; Iestyn Evans a Tudur George 1af Adeiladu Pilar a Llyr ac Owain Dunn 2il; Llyfyr Lloffion- Sioned a Siriol Howells 1af; Gosod Blodau dan 28- Betsan Jones 1af; Arddangosfa Sgil Circus- Hefin Jones a Siriol Howells 1af; Coginio NFYFC- Cathrin Jones, Sioned Bowen a Sion Davies 1af, Ail greu pennod neu sgets enowg: Sioned H, Sioned B, Cathrin, Hefin, Jac a Ifor- 1af; Gwaith coed hŷn Alwyn Evans a Tomos Jones 1af;  Arwydd i hyrywddo’r Rali- 2il; Canu grŵp hŷn 2il; Gwisgo arweinydd Menna Howells ac Efa Evans 3ydd; Arddangosfa prif gylch 3ydd.

Ar ddiwedd yr holl gystadlu daeth yr adran Iau yn 5ed ac mi enillwyd tarian yr adran hŷn gan ennill y rali. Llongyfarchiadau i’r aelodau a diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n dysgu a chynorthwyo.

Hefyd yn ystod y dydd braf oedd gweld tri aelod gweithgar o’r clwb ar y llwyfan yn seremoni’r Llysgenhadon. Coronwyd Betsan Jones yn Lysgenhades CFfI Sir Gâr am 2023-2024, Dafydd Evans yn Lysgennad a Sioned Bowen yn ddirprwy Llysgenhades. Llongyfarchiadau mawr i chi’ch tri a gobeithio y cawsoch ddiwrnod wrth eich bodd.