Llwyddiant Eisteddfodol i C.Ff.I. Llanllwni

Aelodau Clybiau Ffermywr Ifanc lleol yn cystadlu yn Eisteddfod Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar

gan Owain Davies
C.FF.I.-Llanllwni-Eisteddfod-23

Cynhaliwyd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin eleni ar y 13eg a’r 21ain o Hydref. A do, bu aelodau C.Ff.I. Llanllwni’n brysur yn cystadlu a phob un wedi gwneud eu gorau glas a rhagori.

Nos Wener daeth Hefin Jones a Siriol Howells i’r brig yn y gystadleuaeth dangos eich doniau yn perfformio sgiliau syrcas a daeth merched yr Ensemble Lleisiol yn ail. Hefyd yn cynrychiolu’r clwb oedd criw’r sgets a Erin Evans yn yr Unawd Offerynnol.

Ddydd Sadwrn daeth Sioned Howells i’r brig yn y llefaru hŷn a Lowri Davies yn y llefaru adran ganol. Yn yr adran gerdd cipiodd Sioned a Siriol Howells y garden goch yng nghystadleuaeth y ddeuawd a bu Jac Jones yn canu yn yr unawd 28 ac iau. I’r ail safle daeth y Parti Llefaru fel gwnaeth y Triawd Doniol sef Ifor, Hefin a Sioned. Cafodd criw mawr o’r aelodau hwyl yn y meimio i gerddoriaeth a bu Dafydd ac Owain, Osian a Siriol a Llŷr a Lowri’n rhoi tro ar y stori a sain. Bydd Sioned a Siriol yn mynd ymlaen i Eisteddfod C.Ff.I. Cymru ym Môn.

Ond nid yn unig ar y llwyfan mae talentau’n haelodau, am ei stori fer cipiodd ein trysorydd, Sioned Bowen goron yr Eisteddfod (a gyflwynwyd gan Lywydd y Sir ac a wnaed gan Hefin Jones). Dyma’r trydedd tro iddi gyflawni’r gamp. Sioned Howells oedd yn ail, ac yng nghystadleuaeth y gadair. Yn y gystadleuaeth ffotograffiaeth daeth Cathrin Jones yn 2ail a Nerys Jones yn 3ydd. Cafodd Siriol Howells ail deirgwaith am ar yr erthygl, celf a’r frawddeg.

Ar ddiwedd y nos cipiodd C.Ff.I. Llanllwni Darian Elownwy Phillips am nifer uchaf o farciau yn yr adran gwaith cartref a’r drydedd safle am y brif darian.

Ewch draw i’n tudalen ar y cyfryngau cymdeithasol i weld mwy o luniau.

Llongyfarchiadau hefyd i ddawnswyr C.Ff.I. Cwmann ar ennill y ddawns gyfoes ac i Carwen George a Trystan Evans, C.Ff.I. Dyffryn Cothi ar eu llwyddianau yn yr unawdau a llefaru.

C.Ff.I. Penybont enillodd tarian yr Eisteddfod gyda C.Ff.I. Capel Iwan yn ail.