Mae wedi bod yn dymor hynod o brysur i glwb pêl droed Llambed eleni gyda 12 tîm wedi bod yn chwarae’n wythnosol. Mae’r clwb yn mynd o nerth i nerth o ganlyniad i angerdd, brwdfrydedd a gwaith diflino’r hyfforddwyr a’r chwaraewyr – ac mae’r diolch yn fawr iawn iddynt.
O ganlyniad i’r holl waith caled mae’r clwb wedi llwyddo cryn dipyn eleni;
Ar y 6ed o Fai fe wnaeth tîm dan 16 guro Aberaeron 2-1 (Llŷr Jones 2 gôl) mewn gêm gystadleuol a wnaeth sicrhau bod y tîm yn bencampwyr cynghrair de Ceredigion. Buddugoliaeth arbennig i griw ymroddgar o fechgyn ifanc sydd wedi cyd chwarae ers oedran dan 6. Mae diolch mawr i’r hyfforddwr Dylan Davies am ei arweiniad doeth ar hyd y blynyddoedd. Mae’r tîm yn parhau i chwarae yng nghystadleuaeth y cwpan ac yn chwarae yng ngêm cyn derfynol yn erbyn Castell Newydd Emlyn ar y 26ain o Fai – gobeithio y byddwn yn gallu adrodd am lwyddiant pellach y tîm yn y dyfodol agos.
Mae’r tîm dan 14 wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt hefyd, yn ennill twrnamaint Felinfach ac yn gorffen ail yn y gynghrair a dim ond yn colli’r safle cyntaf o ganlyniad i wahaniaeth yn y goliau. Mae’r tîm yn parhau i gystadlu yng nghystadleuaeth y cwpan ac wedi llwyddo i gyrraedd y ffeinal – pob lwc fechgyn!
Roedd twrnamaint Felinfach yn lwyddiant ysgubol gyda nifer o chwaraewyr y clwb yn ennill gwobrau am chwaraewyr y twrnamaint; Jac Jones dan 12, Dion Deacon-Jones dan 14, Ryan Burr yn ennill gôl geidwad gorau o dan 16, a Ysuf yn ennill gôl geidwad gorau o dan 14. Yn ogystal, fe enillodd tîm dan 11 – gwobr am dîm y diwrnod. Penwythnos llwyddiannus tu hwnt.
Mae’r tîm cyntaf wedi bod ar dipyn o siwrne yn ystod y tymor. Roedd dyfodol y tîm cyntaf yn fregus iawn ar ddechrau’r tymor gyda’r ansicrwydd a fyddai tîm hŷn yn gallu parhau yn Llambed. Ond, gyda phenderfyniad doeth i ymuno â’r ail gynghrair a gyda dyfalbarhad a chyd dynnu fe ddaeth chwaraewyr ynghyd i frwydro’n anhygoel ar y cae chwarae o wythnos i wythnos. Fe wnaeth y cyd dynnu dalu ffordd yn fawr gyda’r tîm yn llwyddo i ennill pob gêm yn ystod y tymor. Yn coroni’r cyfan enillwyd 0-13 yn erbyn Llandudoch yng ngêm ola’r tymor gan sicrhau bod Llambed yn gorffen ar dop y tabl ac yn bencampwyr ail gynghrair Ceredigion. Rhaid cydnabod camp anhygoel Scott Davies (capten y tîm cyntaf) yn sgorio 18 gôl yn ystod y tymor sy’n golygu mai Scott oedd yn ennill y wobr am y nifer o goliau uchaf yn y gynghrair. Mae ennill y gynghrair yn golygu bydd y tîm yn cael dyrchafiad i’r uwch gynghrair y tymor nesaf. Amdani!
Hoffai’r clwb ddiolch yn fawr iawn i holl noddwyr eleni sydd wedi sicrhau crysau newydd i dimau’r ieuenctid. Pawb yn edrych yn smart iawn!
Ar Fehefin y 10fed mi fydd y clwb yn cynnal Gŵyl Bêl Droed ar gaeau’r Ysgol – edrychwn ymlaen yn fawr i groesawu nifer o dimoedd o bob cwr o Gymru ar y diwrnod.