Llyfrgell Roderic Bowen y Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan yng Ngŵyl Drysau Agored CADW

Cynhelir y digwyddiad rhwng 12:00pm – 4:00pm ddydd Sadwrn, 30 Medi

gan Lowri Thomas

 Mae’r ŵyl yn arddangos mwy na 200 o safleoedd hanesyddol, nodweddion hynod a gemau cuddiedig yng Nghymru i’r cyhoedd ehangach, pan fydd sefydliadau treftadaeth, perchnogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill yn cael eu hannog i agor eu drysau.

Yn y Casgliadau Arbennig yn Llambed mae casgliad o bwysigrwydd cenedlaethol o 35 000 o gyfrolau hanesyddol, gan gynnwys wyth llawysgrif ganoloesol a 69 o gyfrolau a argraffwyd cyn 1500.

Yn ystod y digwyddiad, bydd detholiad o’r eitemau mwyaf diddorol yn y llyfrgell yn cael eu harddangos.  Bydd y rhain yn cynnwys llawysgrif 1279 o’r Beibl Lladin, a oedd yn eiddo gynt i’r Esgob Thomas Burgess; dau lyfr oriau o’r 15fed ganrif; copi o atlas Abraham Ortelius, sy’n cynnwys y map argraffedig cyntaf o Gymru; Historia animalium gan Conrad Gessner, gwyddoniadur astudiaethau natur diddorol iawn o’r 16eg ganrif; detholiad o lyfrau botanegol o’r 15fed i’r 18fed ganrif; amrywiaeth o lyfrau teithio sy’n gysylltiedig â fforwyr o’r 18fed ganrif, yn cynnwys Capten Cook; a detholiad o gyfrolau penseiri sy’n gysylltiedig â Thaith Fawr Ewrop.

Meddai Siân Collins, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau yn y Drindod Dewi Sant:

“Mae hwn yn gyfle arbennig i bobl weld beth sydd mor ‘arbennig’ am y Casgliadau Arbennig. Rydym ni mor lwcus yn y Drindod Dewi Sant bod nifer o drysorau syfrdanol gennym ni ac edrychwn ymlaen at eu rhannu nhw â’r gymuned ehangach.  Gobeithio byddan nhw’n ennyn cyffro a chwilfrydedd – a’r awydd i ddarganfod rhagor!”

Ychwanegodd Alison Harding, Pennaeth Gweithredol y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn y Drindod Dewi Sant:

“Rydym ni mor falch bod ein Casgliadau Arbennig ac Archifau yn gallu cyfrannu at raglen Drysau Agored CADW ar gyfer 2023. Rydym ni’n ymwybodol iawn o’n rôl allweddol yn nhirwedd diwylliannol a threftadaeth Cymru, felly mae’n aruthrol o bwysig ein bod yn sicrhau bod mynediad i’r casgliadau hyn gan y cymunedau tu hwnt i’r Brifysgol. Hefyd hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gydweithwyr o dîm y Casgliadau Arbennig ac Archifau am ei gwneud yn bosibl i ni gymryd rhan yn y rhaglen arwyddocaol hon.”