Lowri Davies yn rhan o dîm a enillodd wobr canmoliaeth uchel yn y Gwasanaeth Iechyd

Newid arferion cleifion i ddefnyddio anadlyddion powdwr sych sydd yn creu llai o garbon

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
C3568B0B-7DDD-4679-A781

Mae fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol yn nhîm Optimeiddio Meddyginiaethau Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi derbyn gwobr Canmoliaeth Uchel yn y Gystadleuaeth Tîm Gwyrdd yn ddiweddar.

Llongyfarchiadau Lowri Davies o Lanbed ynghyd â Mair, Rebekah, Lowri a Sian ac i Feddygfa Borth a’i chleifion.

Mae’r Gystadleuaeth Tîm Gwyrdd yn rhaglen ar gyfer sefydliadau’r GIG sy’n dymuno gwella cynaliadwyedd eu gwasanaeth drwy leihau niwed amgylcheddol, lleihau gwastraff ariannol, ac ychwanegu gwerth cymdeithasol.

Nod y prosiect ‘Lleihau’r Mewnanadlwyr Glas’ dros ddeng wythnos oedd lleihau ôl troed carbon anadlwyr dos mesuredig a elwir gan gleifion yn ‘anadlwyr glas’ a lleihau nifer y ceisiadau am ailbresgriptiwn.

Wyddech chi fod anadlwyr glas yn gyfrifol am 65,00 tunnell o CO2 yng Nghymru?

Ar ddiwedd y prosiect, cyfrifwyd y canlyniadau canlynol:

  • Gostyngiad o 20,128.34kgCO2e y flwyddyn mewn allyriadau CO2 blynyddol.
  • Lleihau costau y gellir eu hail-fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd.

Mae Lowri Davies yn gweithio fel Fferyllydd Cynghori Rhagnodion i Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn ardal Ceredigion.

Esboniodd Lowri “Roeddem yn gweithio gyda Meddygfa Borth i geisio newid arferion cleifion o ddefnyddio anadlyddion carbon uchel dos mesuredig (MDI) i ddefnyddio anadlyddion powdwr sych (DPI) sydd yn creu llai o garbon. Mae anadlyddion dos mesuredig (MDI) yn cynnwys nwyon tŷ gwydr pwerus sydd yn cyfrannu at newid hinsawdd. Maent yn creu 28kg o CO2 sydd yn cyfateb â thaith 175 milltir mewn car tra ond 1kg CO2 – 3 milltir y mae anadlyddion powdwr sych yn eu creu.”

Ychwanegodd Lowri “Mae Hywel Dda yn gweithio tuag at leihau ei ôl troed carbon.  Mae anadlyddion powdr (dry powder DPI’s) yn gweithio’r un mor dda i gyflyrau fel asthma neu COPD ond maent yn cynnwys llai o garbon ac felly yn well i’r amgylchedd.”

Gall cleifion sydd â diddordeb mewn newid anadlyddion gysylltu â’u meddygfeydd i drafod gyda’u darparwyr gofal iechyd.

Dywedodd Lowri “Roeddwn i, a thechnegydd fferyllol o’n tîm ni yng Ngheredigion yn gweithio ar y prosiect ynghyd â nyrsys, meddygon a fferyllydd o Feddygfa Borth.”

Pwysleisiodd Lowri “Mae’r wobr yn dangos fod modd i’r bwrdd iechyd gydweithio gyda meddygfeydd a lleihau nifer yr anadlyddion sydd yn cael eu rhoi ar bresgriptiwn bob mis, lleihau gwastraff a hefyd lleihau ôl troed carbon.”

Maent yn gobeithio cydweithio gyda rhagor o feddygfeydd o fewn Hywel Dda ac yn gobeithio bod y project yn codi ymwybyddiaeth o’r gwahanol anadlyddion a phwysigrwydd lleihau ôl troed carbon anadlyddion.