Mared YFC yn dychwelyd fel pennaeth y CFfI

Diwrnod cyntaf Mared Rand Jones fel Prif Weithredwr CFfI Cymru heddiw

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
75704BFA-A980-4713-9975

Heddiw yw diwrnod cyntaf Mared Rand Jones fel Prif Weithredwr Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Adnabyddir Mared yn lleol fel Mared YFC ers ei dyddiau yn Drefnydd CFfI yng Ngheredigion.  Er iddi weithio gyda Undeb Amaethwyr Cymru yn Llanbed ac fel Pennaeth Gweithrediadau i Sioe Amaethyddol Cymru ers hynny, mae pobl yn dal i gyfeirio ati fel Mared YFC.

Ac wrthgwrs, Mared YFC yw hi nawr eto a hithau yn gwneud y prif swydd cyflogedig o fewn y mudiad yng Nghymru.

Dywedodd Mared ar facebook ddoe “Wel dyma diwedd cyfnod o weithio gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Mae wedi bod yn anrhydedd ac rwyf wedi mwynhau gweithio fel Pennaeth Gweithrediadau mas draw. Rwyf wedi dysgu llawer, cael profiadau di-ri a wedi gwneud ffrindiau da am oes.  Ymlaen i’r bennod newydd gyda CFfI Cymru a #MaredYFC eto.”

Bydd Mared yn gweithio o Ganolfan CFfI Cymru ar Faes y Sioe yn Llanelwedd.  Roedd yn Swyddog Datblygu CFfI Ceredigion am bron i 11 mlynedd, Swyddog Gweithredol Ceredigion gyda Undeb Amaethwyr Cymru am ddwy flynedd a hanner a gyda Chymdeithas y Sioe Fawr am bum mlynedd fel Pennaeth Gweithrediadau.

Un o blant fferm Llanfairfach, Llanbed yw Mared, yn gyn aelod gweithgar o Glwb Llanddewi ac mae’n dal i gynorthwyo gyda Sioe Llanbed.  Mared hefyd yw un o brif actorion Panto blynyddol Thestr Felinfach ac mae’n rhan o’r criw gweithgar sy’n trefnu Tregaroc bob blwyddyn.

Dymunwn yn dda iddi yn ei swydd newydd a chred pawb sy’n ei hadnabod bod y mudiad felly mewn dwylo profiadol a diogel iawn.