Marwolaeth sydyn yn syfrdanu’r ardal

Dafydd Lewis yn marw’n 48 oed.

gan Gwyneth Davies
59D8F89F-D3A3-4D14-9260-83493E88C139

Taenwyd cwmwl o dristwch dros ardal Llambed a thu hwnt bore dydd Gwener diwethaf gyda’r newyddion syfrdanol bod Dafydd Odwyn Lewis, Cwmann, wedi marw’n 48 oed.

Cysylltwn Dafydd yn bennaf wrth gwrs â’r cwmni llewyrchus W D Lewis a’i fab (Masnachwyr Amaethyddol) a sefydlwyd yn Llambed nôl ym 1935. Dyma gwmni teuluol sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth diflino i ardal eang.

Disgybl yn Ysgol Ffynnon Bedr oedd Dafydd gan fynychu Ysgol Uwchradd Llambed yn ddiweddarach. Yn ystod ei blentyndod, aeth i Ysgol Sul Brondeifi hefyd. Ymaelododd â C.Ff.I. Cwmann ym 1986 ac yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gadeirydd, yn aelod o’r tîm a enillodd ‘Clwb y Flwyddyn’, yn rhan o dîm y Rali Ewropeaidd i Ddenmarc, yn ysgrifennydd ar y cyd gyda Meleri Jones, yn llywydd ar Glwb Cwmann ac yn Gadeirydd ar lefel Cymru. Cafodd lwyddiant ysgubol yn ogystal ym myd y Siarad Cyhoeddus.

Bu’n chwarae rygbi i Glwb Llambed am flynyddoedd hefyd gan barhau i gefnogi’r clwb tan ei farwolaeth. Ymaelododd â ‘Côr Pam Lai’ pan sefydlwyd y côr ac yn ôl Hywel Roderick, y cadeirydd:

“Roedd Dafydd yn aelod poblogaidd iawn, yn mwynhau canu gyda’r baswyr ond yn fwy na hynny, roedd wrth ei fodd gyda’r gwmnïaeth.  Os oedd Dafydd mewn ymarfer, fe fyddai yna chwerthin. Roedd bob amser yn medru codi’r hwyl gyda’i ddywediadau ffraeth a’i hiwmor twymgalon. Roedd yn gymeriad hawddgar, hoffus dros ben, yn dynnwr coes heb ei ail ac yn fwy na dim, yn ŵr bonheddig. Bydd ei golli yn gadael bwlch enfawr yn y Côr.”

Cydymdeimlwn yn ddwys â Kay, ei briod a’i ferched Megan ac Elin yn eu galar a’u hiraeth. Hefyd â’i dad Gwynfor, Dylan ei frawd, ei fam-gu Mrs Eluned Lewis a’r teulu oll yn eu colled. Cofiwn amdanoch i gyd ar adeg anodd dros ben.

Gair o ddiolch gan Dylan:

“Llithrodd Dafydd o’n gafael ni mor ddisymwth oriau mân fore Gwener gan adael gwraig a dwy ferch hyfryd yr oedd e’n meddwl y byd ohonynt.  Doedd Dad ddim yn disgwyl colli mab â’r ddau ohonyn nhw’n gweithio mor agos, a Kay a’r merched yn hollol gegrwth o golli gŵr a thad mor gariadus. Er mai fy mrawd brawd bach i oedd e, fe oedd craig ein teulu. Roeddem wedi trefnu i fynd ar wyliau gyda’n gilydd ym mis Awst. Gwelwn ei eisiau’n aruthrol.

Mae’r teyrngedau dros y dyddiau diwethaf wedi ein cysuro ac wedi agor ein llygaid i’r hyn a gyflawnodd ac i’r hyn a wnaeth dros ei gyfnod byr ar y ddaear. Oedd, roedd yn ddrygionus ac yn hoffi tynnu coes, ond roedd yn garedig tu hwnt ac yn gefnogol i bopeth da. Mae’n rhyfeddol fel mae cymuned, cyfeillion a theulu yn estyn llaw ar adegau anodd fel hyn a dymunwn i gyd ddiolch am bob cydymdeimlad a chwmni. Dymunwn hefyd ddiolch i staff teyrngar W D Lewis a’i fab sydd wedi gorfod delio â cholli Dafydd gan barhau i weithio’n broffesiynol yn ei absenoldeb.”