Myfyriwr yn Llambed yn cipio Gwobr Traethawd Hir Meistr gyntaf BIAA

Cyfareddu gan gyfnod Neolithig, lle’r oedd traddodiad eang o orchuddio rhai penglogau â plaster

gan Lowri Thomas

Myfyriwr MA Crefyddau’r Hen Fyd o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ennill Gwobr Traethawd Hir Meistr gyntaf BIAA.

Mae’r Sefydliad Prydeinig yn Ankara yn cefnogi, yn galluogi ac yn annog ymchwil yn Nhwrci a rhanbarth y Môr Du mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys archaeoleg, hanes yr hen fyd a hanes modern, rheoli treftadaeth, gwyddorau cymdeithasol a materion cyfoes mewn polisi cyhoeddus a gwyddorau gwleidyddol.

Dewiswyd Cathy Graham, myfyrwraig yn Y Drindod Dewi Sant, yn enillydd ar gyfer ei thraethawd hir : “Plaster as a vital material: The agency of plaster in the curation of the Çatalhöyük skull.”

Mae’r traethawd hir yn canolbwyntio ar y cyfnod Neolithig, lle’r oedd traddodiad eang o orchuddio rhai penglogau â plaster. Cafwyd hyd i un ohonynt yn Nhwrci, yn swatio ym mreichiau sgerbwd. Unwaith y dysgodd Cathy am hyn, roedd hi wedi ei chyfareddu.

“Roeddwn i eisiau gwybod beth oedd yn gwneud y benglog hon mor arbennig iddi gael ei thrin yn wahanol. Ac arweiniodd hynny at ystyried y rôl yr oedd plaster yn ei chwarae wrth drawsnewid penglog gyffredin yn rhywbeth anghyffredin. Er nad oeddwn i’n gwybod am y term wrth ddechrau, Materoliaeth Fywiog yw’r enw ar y dull hwn sy’n archwilio effaith y deunydd yn ogystal ag effaith y creawdwr dynol, h.y., mae priodweddau’r plaster yn caniatáu neu’n cyfyngu ar weithredoedd yr artist ar sail gyfartal – nid yr artist yn unig sy’n gosod ei syniadau ar y deunydd. Roedd fy nhraethawd hir yn archwilio symbolaeth y plaster, sef y deunydd technoleg uchel, ddiweddaraf ar y pryd.”

Penderfynodd Cathy roi cynnig ar y gystadleuaeth, ar ôl i ffrind o’r brifysgol sôn wrthi amdani. Ar ôl cyflwyno ei gwaith anghofiodd am y peth nes iddi dderbyn e-bost i roi gwybod iddi ei bod wedi ennill. Dywedodd hi:

“Wir i chi, doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth. Roeddwn i’n meddwl mai dim ond hysbysiad oedd e i ddiolch i mi am fy nghais a rhoi gwybod bod rhywun wedi ennill, felly roedd rhaid i mi ei ddarllen o leiaf ddwywaith! Alla i ddim meddwl yn onest am gyfnod pan dwi wedi bod mor falch. Mae’n rhaid mod i wedi gweiddi allan achos dyma bawb yn y tŷ yn rhedeg ata i er mwyn gweld beth oedd yn digwydd.”

Yn rhan o’i gwobr, enillodd Cathy £500 ynghyd ag aelodaeth tair blynedd o’r BIAA. Ychwanega:

“Rydw i wedi gallu ei roi ar gais i gadarnhau fy rhesymwaith dros grant teithio i fynd i’r Iorddonen a Jerwsalem ym mis Medi. Mae’r BIAA hefyd wedi dweud eu bod nhw’n gobeithio y bydda i’n mynd i Dwrci i archwilio’r safleoedd yn Ankara, a fyddai’n anhygoel.”

Ymunodd Cathy â’r Drindod Dewi Sant yn fyfyrwraig yn 2017, ar ôl darganfod cwrs Meistr yng Nghrefyddau’r Hen Fyd yn Llambed. Yn fyfyriwr aeddfed roedd hi’n teimlo bod y Brifysgol, “yn groesawgar dros ben ac yn agored iawn i bobl fel fi oedd wedi bod allan o addysg ffurfiol am gyfnod, ac roedd y prosbectws yn dangos awyrgylch hapus a chyfeillgar.”

Penderfynodd Cathy astudio ar gyfer ei gradd Meistr yn rhan-amser, ac fe wnaeth hi fwynhau’r cwrs a sut y datblygodd hi fel unigolyn.

“Dysgais i sut i ysgrifennu mewn arddull academaidd, er fy mod i’n dal i feddwl mai cyfathrebu’n glir â’r darllenwyr ddylai diben traethawd fod yn hytrach nag ymgais i greu argraff o oruchafiaeth trwy ddefnyddio iaith anodd. Dechreuais i ddatblygu fy arferion gwaith hefyd. Dwi’n credu bod bod yn fyfyriwr aeddfed o fantais fwy na thebyg o ran sgiliau trefnu er ei bod yn dal yn anodd iawn cydbwyso anghenion teulu â nodau personol rhywun.

“Roedd y teulu’n gefnogol iawn, yn enwedig pan ddechreuais i ysgrifennu fy nhraethawd hir, a dysgais i sut i ddyrannu amseroedd penodol ar gyfer gwahanol dasgau.”

Mae’r Athro Louise Steel, Cyfarwyddwr Rhaglen Crefyddau’r Hen Fyd yn falch iawn o gamp Cathy.

“Mae wedi bod yn bleser dysgu Cathy dros y pedair blynedd ddiwethaf, a hithau bellach yn dechrau ar ei PhD yma yn Llambed – mae ennill y wobr hon wedi bod yn bluen wych a haeddiannol yn ei het. Mae dod i’r brig mewn cystadleuaeth mor bwysig, yn gamp y gall hi a’r Drindod Dewi Sant fod yn falch iawn ohoni.”