Naws y Nadolig a digon o ganu!

Merched y Wawr Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch yn Hafan Deg

Shân Jones
gan Shân Jones
997dc6b8-eafa-4ff3-ba1c-1

Rhai o aelodau Merched y Wawr Cangen Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch yn Hafan Deg

Bu 14 o aelodau Cangen Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch o Ferched y Wawr ar ymweliad â thrigolion cartref Hafan Deg p’nawn Sul Rhagfyr 10fed. Cafwyd croeso hyfryd ac amser hwyliog yn canu carolau ac yn gwrando ar ddatganiad gan Elin o’r gerdd ‘Dim Ond Un’ gan y Prifardd Mererid Hopwood. Dysgwyd am gefndir diddorol cyfansoddi’r garol enwog ‘Stille Nacht’ gan Gillian a chael ein swyno yn gwrando ar gerdd wedi ei chyfansoddi ganddi. Cafwyd datganiad hyfryd gan Helen ar y ffidl a diolch yn fawr i Janet am chwarae’r allweddellau a’n cadw mewn tiwn.

’Roedd yn braf cael cyfle wedyn i sgwrsio a chymdeithasu gyda’r trigolion a’r staff tra’n mwynhau paned a mins peis. Diolch yn fawr i staff a thrigolion Hafan Deg am eu croeso a phrynhawn difyr yn eu cwmni.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Changen Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch o Ferched y Wawr cysylltwch â ni ar ebost myw.llps@outlook.com  Bydd ein cyfarfod nesaf am 2.00 o’r gloch p’nawn Llun, Ionawr 8fed yng Nghanolfan y Creuddyn. ’Rydym yn croesawu merched o bob oed sy’n medru neu yn dysgu’r Gymraeg ac sy’n mwynhau cymdeithasu a chael hwyl. Beth am wneud adduned blwyddyn newydd a dod atom ar Ionawr 8fed? Edrychwn ymlaen at eich gweld!