Bws 585 : Newidiadau i’r amserlen o’r 1af o Fedi ymlaen

Cyhoeddi newidiadau i amserlen bws 585 Llanbed – Tregaron – Aberystwyth.

gan Ifan Meredith

Mae bws 585 yn rhedeg rhwng Llanbed ac Aberystwyth drwy Llanfair Clydogau, Llangeitho a Llanilar ac yn darparu gwasanaeth bws ysgol ar gyfer Disgyblion Ysgol Bro Pedr yn Llanbed, Ysgol Henry Richard yn Nhregaron yn ogystal â Choleg Ceredigion, Ysgol Penglais a Phenweddig yn Aberystwyth.

Yn ôl yr amserau newydd, mi fydd y bws yn gadael Llanbed am Aberystwyth am 10:00, 13:00, 15:30 a’r gwasanaeth olaf i Dregaron yn unig am 17:30.

Mi fydd y bysiau yn cyrraedd Llanbed o Aberystwyth am 08:38, 10:00, 13:00 a 15:45.

Am yr amserlen yn llawn, gwelir yr atodiad isod:

BWS 585 Mis Medi

“gwneud y gorau o’r cyllid sydd ar gael”

Mewn datganiad gan Gyngor Sir Ceredigion, mae’r Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon yn “diolch i’r gweithredwyr bysiau lleol am weithio gyda ni ar yr amser anodd a heriol iawn hwn i’r diwydiant. Mae lefel y gwasanaeth y byddwn yn gallu ei ddarparu yn gwneud y gorau o’r cyllid sydd ar gael ac yn adlewyrchu’r hyn y mae’r gweithredwyr yn fodlon ac yn gallu ei ddarparu ar hyn o bryd.”

Fel pwnc llosg amlwg yng nghefn gwlad, aeth ymlaen i sôn am ymdrechion y Cyngor i annog Llywodraeth Cymru i gynyddu’r cyllid sydd ar gael er mwyn cynnal y gwasanaethau bysiau gwledig a “darparu trafnidiaeth i’r rhai sy’n defnyddio bysiau’n rheolaidd a’r rhai na allant ddefnyddio ceir preifat.”

Serch hynny, cafwyd rhybudd gan y Cynghorydd er mwyn sicrhau bod pobl leol yn defnyddio’r gwasanaethau bysiau yn rheolaidd.

“Fodd bynnag, wrth symud ymlaen, bydd angen gwneud defnydd o wasanaethau bysiau yn rheolaidd ac yn barhaus os ydynt am fod yn gynaliadwy ac yn hyfyw yn amgylcheddol yn ogystal ag yn ariannol.”