NEWYDD DORRI: Cau Ysgolion o achos tywydd gaeafol.

Cau rhai Ysgolion Ceredigion wrth i eira ddisgyn yn ystod y nos.

gan Ifan Meredith

Mi fydd Ysgol Bro Pedr ynghau heddiw (18.1.23) o achos ‘rhesymau diogelwch’ sy’n deillio o risg o lithro ar yr eira. Yn ôl datganiad gan Ddirprwy Bennaeth yr Ysgol, Mrs Carys Morgan, mi fydd gwaith yn parhau i gael ei osod ar ‘Teams’ i ddisgyblion Bro Pedr.

Mae ysgol y Dderi, Llangybi ar gau yn ogystal ag Ysgol Dyffryn Cledlyn oherwydd y tywydd garw. Mae Ysgol Carreg Hirfaen yn Sir Gâr hefyd ar gau oherwydd y tywydd garw.

Mae Ysgol Henry Richard, Tregaron hefyd ynghau wrth ddatgan bydd yr ysgol ar gau ‘er mwyn sicrhau diogelwch pawb’. Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn parhau ar agor gyda llai o wasanaethau bws.

Er mwyn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf, mae modd gwirio ar wefannau cymdeithasol yr ysgolion

Mae’r cyngor wedi bod yn graeanu’r ffyrdd yn ystod y nos er mwyn lleihau’r effaith o dywydd rhewllyd ar brif heolydd y sir.

Mae’r sir hefyd wedi gosod cyngor ar bethau i’w hystyried tra’n gyrru yn ystod y tywydd gaeafol:

  • Dylai gyrwyr gynllunio eu taith yn ofalus.
  • Fel y bo’n bosibl, defnyddio’r ffyrdd sydd wedi’u cynnwys yn y rhwydwaith a raeanir ymlaen llaw.
  • Mewn tywydd rhewllyd mae’n hanfodol eich bod yn gyrru’n fwy gofalus.
  • Arafwch cynted ag y gwelwch fod yno rew.
  • Llywiwch yn ysgafn gan osgoi brecio’n galed.
  • Cadwch yn ddigon pell draw o gerbydau gwasanaeth y gaeaf a byddwch yn dra gofalus wrth eu goddiweddyd, mae’r lorïau graeanu wedi’u dylunio i daenu graean ar led y ffordd gyfan.

Bellach, mae’r seyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew yn gorchuddio rhan fwyaf o Gymru tan Ddydd Gwener.

Mae gwasanaethau hefyd wedi cael eu heffeothio gyda Hamdden Llanebd yn datgan na fydd gwersi nofio ym Mhwll Nofio Llanbed heno.