Noson Elusennol Lwyddiannus yn Llambed

Noson wedi ei threfnu gan Sara Wyn o Gwmann

gan Alis Butten
Noson Elusennol
Carolyn Hitt & Andrew Morgan yn siarad
Sara Wyn yn siarad am bwysigrwydd y ddwy elusen ddewisol
Neuadd Lloyd Thomas, Llambed

Roedd bron i ddau gant o bobl yn bresennol yn y noson elusennol

Noson Elusennol
Noson Elusennol

Rhai o’r eitemau a arwerthwyd yn y digwyddiad

Ar yr ail ar bymtheg o Ragfyr cynhaliwyd Noson Elusennol yn Llambed ar gyfer elusennau Canolfan Ganser Felindre a Mind Cymru. Trefnwyd y noson gan Sara Wyn Evans o Gwmann, sydd bellach yn gweithio fel athrawes chwaraeon yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd.

Cododd y noson dros £13,000, gydag arian yn parhau i ddod mewn. Soniodd Sara Wyn am bwysigrwydd y ddwy elusen a ddewiswyd yn ystod y noson yn ogystal ag ychydig eiriau gan Carolyn Hitt, Llysgennad Gofal Canser Felindre.

Codwyd arian drwy werthu tocynnau, gwobrau raffl ac arwerthiant llwyddiannus. Llywyddwyd y noson gan Andrew Morgan yn Neuadd Lloyd Thomas gyda bron i ddau gant o bobl yn bresennol. Daeth nifer fawr o’r gymuned i’r noson i fwynhau cwmni da, bwyd, adloniant ac i godi arian.

Hoffai Sara Wyn ddiolch i bawb a gyfrannodd ac a fynychodd y noson.