Noson Gabaret yng nghwmni Rhys Taylor a’r Band

50 Shêds o Lleucu Llwyd

gan Gwyneth Davies

Ar Nos Sadwrn, Medi’r 9fed cafwyd gwledd o ganu yn Neuadd Lloyd Thomas, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llambed. Noson Gabaret oedd hi (50 shêds o Lleucu Llwyd) yng nghwmni Rhys Taylor a’i fand. Trefnwyd y noson ar y cyd rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed, Inspire a Phwyllgor Gŵyl Dewi. Bu trefnwyr y Brifysgol sef Pat Jones a Gwilym Dyfri Jones yn cydweithio’n agos gydag Ann Bowen Morgan o Bwyllgor Gŵyl Dewi.

Roedd lleisiau hyfryd yr unawdwyr Elin Hughes o Lanybydder a Gareth Ellis o Gaerdydd yn swyno’r gynulleidfa. Cafwyd digon o amrywiaeth ar ein cyfer a rhywbeth at ddant pawb. O ganeuon poblogaidd Cymraeg fel ‘Bytholwyrdd’ i’r clasuron Saesneg fel ‘Rolling on the River.’ A phwy fyddai’n meddwl bod modd uno Dolly Parton a’r Tebot Piws gyda’i gilydd? Ond dyna a ddigwyddodd wrth i ni glywed yr unawdwyr yn canu ‘Mynd nôl i Flaenau Ffestiniog’ a’r band wedyn yn chwarae darnau o ‘9 to 5’ yn y cefndir. Effeithiol dros ben a’r harmonïau’n gwau i’w gilydd yn berffaith!

Pwysleisiodd Rhys bod angen i bawb ddod allan i ddawnsio a dyna ddigwyddodd. Rhwng y gerddoriaeth fywiog wedyn a’r cwmni difyr, cafwyd noson lwyddiannus. Ond, fyddai’r noson ddim yn gyflawn wrth gwrs heb yr hen ffefryn ‘Lleucu Llwyd.’ A dyna ni – cân hyfryd i gloi’r cyfan!

Dyma a ddywedodd Ann Bowen Morgan:

‘Roedd hi’n noson fendigedig yn wir. Mae’r band yn dalentog dros ben ac mae Rhys yn arweinydd gwych. Braf gweld cynulleidfa luosog wedi dod i fwynhau.’

Diolch i’r trefnwyr, y brifysgol am gael benthyg y Neuadd, y band ac i bawb a ddaeth i gefnogi. Dyma’r pedwerydd digwyddiad eleni a’r newyddion da yw bod y band wedi cael eu bwcio ar gyfer noson arall. Felly, gyda’r gaeaf wrth y drws, beth am rywbeth i godi’r galon? Archebwch docynnau ar gyfer yr 8fed o Ragfyr er mwyn cael noson o ganu, dawnsio a joio. Mae un peth yn bendant – chewch chi mo’ch siomi!

Hysbyseb

Cynhelir Twmpath Dawns yng nghwmni Dawnswyr Talog ar Nos Wener, 6ed Hydref am 7:30pm yn Neuadd Fictoria. Bydd gweithdy gyda’r dawnswyr i blant Cynradd yn rhad ac am ddim am 6:45pm. Trefnir y noson gan Bwyllgor Gŵyl Dewi. Dewch yn llu i gefnogi.