Yn rhifyn Mehefin Papur Bro Clonc cyhoeddwyd portread diddorol o’r cynghorydd Rhys Bebb Jones yng ngholofn “Cymeriadau Bro”. Delyth Morgans Phillips yw’r awdur.
“Rhys ar Frys. Dyna un disgrifiad caredig gan rai sy’n adnabod Rhys, sef y Cynghorydd Rhys Bebb Jones, Maer Tref Llanbedr Pont Steffan a rhoi iddo ei deitl newydd yn llawn. Mae Rhys yn gymeriad amlwg yn y dref ac o bosib nad oes raid ei gyflwyno i ddarllenwyr Clonc.
Felly, Rhys ar Frys. Pam yr enw hwnnw? Go brin y gwelwch chi Rhys yn cerdded yn araf, hamddenol; mae e wastad ar hast! Mae’n aml yn cyrraedd rhyw gyfarfod neu ymarfer côr neu oedfa gyda’i wynt yn ei ddwrn. Mae’n cael job cadw at amser! Ond mae ei anwyldeb, ei ymroddiad a’i ddidwylledd yn peri i ni gyd faddau iddo bob tro am fod yn hwyr.
Mae’n destun syndod cymaint mae Rhys yn llwyddo i’w wneud mewn diwrnod: tybed oes mwy o oriau yn ei ddiwrnod e na’r gweddill ohonom! Mae e ar sawl pwyllgor, yn aelod o gymaint o gymdeithasau a gellir dychmygu bod yna rhyw galendr mawr A3 ar wal y gegin er mwyn gallu cadw ‘tabs’ ar ei amserlen.”
Cafodd ei sefydlu fel Maer Llanbed ym mis Mai ac mae llawer yn synnu bod ganddo amser i wneud y swydd bwysig honno. Mae ei ddiddordebau yn amrywo o gerddoriaeth i amaethyddiaeth a Christnogaeth.
Mae Delyth yn cynnig portread cryno hyfryd o Rhys er mwyn i bawb ddod i’w adnabod yn well. Fel cyn lyfrgellydd, dywed Delyth fod gwasanaethu’r gymuned yn bwysig i Rhys a’i wraig Shan. Er mwyn darllen y portread llawn, mynnwch gopi o rifyn Mehefin Papur Bro Clonc sydd ar werth mewn siopau lleol ac fel tanysgrifiad digidol ar y we.