Prif Swyddogion Ysgol Bro Pedr 2023-2024

Cyflwyno tim o Brif Swyddogion newydd Ysgol Bro Pedr 2023-2024

gan Zara Evans

Wel am flwyddyn yn wir i Ysgol Bro Pedr, mae hi wedi hedfan heibio sy’n golygu bod tymor y Prif Swyddogion yn dod i ben gyda diwedd yr Haf.

Cafwyd llwyddiant tu hwnt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda’r Ysgol yn cael ei hadnabod ym meysydd yr eisteddfod, chwaraeon a llawer mwy gan gynnwys cynhyrchiad sioe lwyddiannus, Gris.

Erbyn hyn, mae Pedwar Prif Swyddog Newydd Bro Pedr wedi eu dewis, ac fel cyn Brîf Swyddogion, rydyn ni’n dymuno’r gorau iddynt wrth eu gwaith.

Dyma gyfle i chi ddod i’w hadnabod nhw.

Unigolyn caredig a llawn egni ydy Megan Bidduplh sydd wastad wedi dangos agwedd bositif tuag at unrhyw sialens. Mae hi’n aelod ac ysgrifenyddes gref o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi sy’n cystadlu’n gyson dim ots pa faes. Mae hi’n berson cerddorol tu hwnt wrth ganu a chanu’r piano yn ei hamser rhydd. Cafodd Megan anrhydedd i chwarae rôl fawr yn y sioe ddiweddaraf, Gris, lle datblygodd niferoedd o sgiliau a phrofiadau newydd. Edrycha Megan ymlaen i’r flwyddyn i ddod ac mae hi’n dymuno blwyddyn lwyddiannus ag hapus dros ben i’r ysgol.

Fel disgybl gweithgar iawn yn Ysgol Bro Pedr mae Ifan Meredith dros y blynyddoedd wedi cydweithio’n aml gyda’r Pwyllgor Cymreictod a chyngor ysgol yn ogystal â chynrychioli’r ysgol mewn amryw o gystadlaethau a gweithgareddau gyda mudiadau fel yr Urdd a’r Rotari. Cafodd Ifan hefyd yr anrhydedd i fod yn gymeriad doniol yn Gris lle wnaeth nifer o ffrindiau newydd. Bu Ifan yn Llysgennad y Coleg Cymraeg eleni ac mae e’n barod i newid i fod yn llysgennad yr ysgol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ynddi. Edrycha Ifan ymlaen at flwyddyn gyffrous i gydweithio gyda’i gyd swyddogion a staff.

Ymlaen i’r maes chwaraeon, mae Gruffydd Llwyd Dafydd wrth ei fodd yn gwylio a chwarae rygbi wrth iddo fod yn brop pen i’r ysgol a thîm Ieuenctid Llambed. Yn ogystal â hyn, mae e hefyd yn unigolyn sydd yn joio canu a llefaru yn unigol ac mewn criw, lle ddangosodd ei sgiliau wrth iddo gael y fraint o fod yn ‘Roger’ yn y sioe Gris. Yn wir, mae Gruff yn gymeriad doniol sydd bob tro yn rhoi gweên ar wynebau cyd-ddisgyblion a staff. Edrycha Gruff ymlaen i’r flwyddyn brysur ac hwylus i ddod.

Mae Martha Thomas yn berson sydd gwastad wedi cymryd bob cyfle sydd i’w gael a’u cyflawni nhw i’r gorau posibl. Mi fu hi’n Llysgennad Coleg Cymraeg ac yn aml wedi arwain a threfnu rhagbrofion Eisteddfod gylch/diwrnod miwsig Cymraeg/gweithgareddau dydd Gŵyl Dewi a llawer mwy. Yn amlwg, mae hi’n berson awyddus iawn i hybu’r iaith Gymraeg yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn i ddod. Yn ogystal a hyn, dangosir ei sgiliau ar lwyfan ac ar y cae chwarae wrth iddi fod yn Patty Simcox yn y sioe Gris ac wrth iddi gynrychioli Ceredigion yn yr Ŵyl Genedlaethol ym Mhêl-Rwyd yn Abertawe. Mae Martha yn awyddus iawn fel Prif Swyddog i gynrychioli llais y disgybl yn yr ysgol.

Pob lwc i’r pedwar ohonoch, dwi’n sicr y byddwch yn cyflawni eich rôl fel Prif ddisgyblion Ysgol Bro Pedr i’r gorau posibl.

Pob lwc hefyd i’r dirprwyon a gafodd eu hethol sef Jess Kemp, Luned Jones, Elen Jones, Taidgh Mullins, Iestyn Stephens a Logan Jones.