Am yr ail flwyddyn, daeth y tractorau at ei gilydd ym mhentref Llanybydder, wedi eu haddurno gyda goleuadau lliwgar a llachar, i deithio o gwmpas yr ardal a diddanu’r dorf a oedd wedi dod o’r strydoedd a’r bryniau i wylio’r digwyddiad llawen hwn.
Pwrpas y daith oedd codi arian at ddwy elusen sydd yn agos at galonnau nifer ohonom yn y gymuned, sef Ysgol Llanybydder a Chymdeithas Strôc Cymru. Mae llawer ohonon ni’n falch iawn o’r ysgol leol a chofiwn hefyd am y teuluoedd hynny sydd wedi dioddef o effeithiau strôc.
Roedd hi’n amlwg bod y gymuned yn mwynhau’r digwyddiad gyda phob oedran yn gwenu wrth wylio’r olygfa.
Dan ofal Patricia Baker, a oedd yn cadw trefn a rheolaeth ar y tractorau, teithiodd yr orymdaith oleuedig lan drwy Lanybydder i Rydcymerau lle’r oedd trigolion yr ardal wedi dod at ei gilydd er mwyn gweld yr holl halibalŵ’n mynd nôl am Fynydd Llanllwni.
Roedd llawer o wylwyr wedi mynd lan i’r mynydd i weld y rhes o dractorau yn croesi o un ochr i’r llall ac i lawr i bentref Llanllwni. Golygfa oedd yn weladwy o filltiroedd.
Ar ôl y daith lawr heibio Eglwys Llanllwni, aeth y rhes hir yn ôl heibio ardal Highmead.
Daeth y tractorau lan Teras Highmead at Bont Llanybydder a chyda’r golau yn fflachio a’r cyrn yn canu, croesawon ni nhw nôl.
Bu sawl Santa’n ymuno â’r hwyl hefyd!
Enillodd Bryn Williams, Drefach Felindre y wobr am y tractor wedi ei arddurno orau gyda’i Ford Dexta. Cyflwynodd Santa (Dafydd Morgans, un o brif drefnwyr y daith) dlws unigryw a oedd wedi ei greu gan Gary Jones (Ffotograffydd) a oedd hefyd wedi beirniadu’r arddangosfa. Daeth Griff Morgans yn ail gyda’r Ford 7810 a Peter Davies yn drydydd gyda’r Massey 135.
Bu Andrew ac Angharad Lewis o Glwb Rygbi Llanybydder yn brysur iawn a thrwy eu caredigrwydd nhw bu’r merched yn cofrestru’r 44 tractor cyn y daith. Ar ôl cyrraedd nôl i’r Clwb, daeth Mark Evans, yr arwerthwr, i werthu’r nwyddau a oedd wedi eu rhoi gan unigolion a chwmnïoedd lleol. Gwerthodd dractor i blentyn bach, rhoddedig gan Gwili Jones am £50, tractorau bach mewn bocs, rhoddedig gan Carol Lloyd am £50, twrci ffres gan deulu Davies, Llwynfedw am £60 a Hamper gan Pat Baker a oedd wedi cyrraedd £130. Roedd hefyd poteli, siocledi a nwyddau eraill wedi eu gwerthu lan at £40.
Noddwyr y raffl oedd Andrew a Bethan Thomas o Roy Thomas a’i fab, Llanybydder. Yr oedd gwobrau ariannol y raffl i gyd wedi cael eu noddi hefyd gan Richard Evans Metal Recycling-Talsarn, Louise Reid Yswiriant, H C Davies Tractors- Llanwnnen, Patricia Baker- Pantglas, Lyn Jones- Lakefield ac A&VJ Davies- Pistyllgwyn.
Gwerthodd y tocynnau raffl mas erbyn wyth o’r gloch gydag un mil o docynnau wedi eu gwerthu yn yr wythnosau cyn y digwyddiad.
Yn brysur iawn wrth baratoi a choginio’r bwyd oedd Vicky a Buddug Jones gyda Kev’s Kitchen. Gweithion nhw’n galed i fwydo’r bobol a ddaeth i fwynhau’r sbri.
Yn fuan, bydd y trefnwyr yn cyhoeddi’r cyfanswm a gwneud trefniadau i ddosbarthu’r elw i’r ddwy elusen.
Yr ydym yn bwriadu gwneud yr un peth eto ar yr 20fed o Ragfyr 2024….gobeithio y gwelwn ni chi gyd yna!