Ail-sefydlu grŵp cymorth ar gyfer menywod sy’n berchen ar fusnesau yng Ngorllewin Cymru

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi helpu grŵp o fenywod, ‘Merched Medrus’, yn Llambed.

gan Lowri Thomas

Mae bod yn berchen ar fusnes wedi bod yn anodd dros flynyddoedd diweddar.  Ers y pandemig, mae perchnogion busnesau bach wedi wynebu problemau ariannol, heriau o ran recriwtio ac wrth i’r argyfwng costau byw ein bwrw, mae llawer bellach yn gweld cwymp yng ngwariant eu cwsmeriaid.   Nid yw busnesau y mae menywod yn berchen arnynt yn ddiogel rhag yr anawsterau hyn ac mae’r rheiny sydd yn ardaloedd gwledig Cymru hefyd yn dioddef unigrwydd.

Cyn y pandemig, byddai’r grŵp yn cwrdd i gynnig cymorth i’w gilydd, rhannu gwybodaeth a sgiliau i helpu eu busnesau i gyrraedd eu potensial llawn.

Meddai Helen Gwenllian, menyw busnes o Geredigion sydd hefyd yn aelod o’r rhwydwaith:

“Pan laniodd covid, ‘doedden ni’n methu dod at ein gilydd mwyach, ac roedd pawb yn gweld eisiau’r cymorth roeddem yn gallu ei roi i’n gilydd. Roedd arnom ni eisiau ailsefydlu’r grŵp fel nad oes raid i fenywod sy’n berchen ar fusnesau deimlo mor unig.”

Gan weithio gyda Rebecca Jones, Rheolwr Datblygu Menter yn Y Drindod Dewi Sant, roedd y grŵp yn gallu cynnal ei ddigwyddiad cyntaf mewn tair blynedd. Ychwanega Rebecca:

“Roeddwn i’n arfer mynychu’r grŵp pan fuodd gen i fy musnes fy hun. Bu’n gymorth hanfodol a phan oeddwn yn gallu cynnig cartref newydd i’r grŵp, roeddwn wrth fy modd.”

Dywedodd Rebecca bod ei rôl i ddatblygu hwb menter wledig yn rhan o brosiect Tir Glas ar gampws Llambed yn golygu y bydd hi’n gweithio gyda pherchnogion busnes ardaloedd gwledig Cymru i’w galluogi i gyrraedd eu potensial llawn.

Yn ystod y digwyddiad cyntaf, trafododd y grŵp sut roedden nhw am ei redeg, pryd a pha mor aml.

“Roedd yna lawer o chwerthin, ond hefyd rhai sgyrsiau difrifol iawn am yr anawsterau mae menywod busnes yn eu wynebu,” meddai Rebecca. “Bydd y grŵp yn cwrdd y rhan fwyaf o fisoedd dros weddill y flwyddyn ac yn darparu lle diogel i rannu profiadau yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd.”

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Rebecca Jones, Rebecca.jones@uwtsd.ac.uk