Paratowch, rieni plant bach! Mae Canolfan Lles Llambed ar fin datblygu i fod y lle i fod yn y dref ar gyfer plant. Dywedwch helo wrth Deuluoedd Actif a Chwarae Blêr, dwy sesiwn gyffrous wedi’u cynllunio i gadw eich plant, dwy i bedair oed, yn actif, yn llawn diddordeb, ac, wel, ychydig yn flêr!
Teuluoedd Actif: Os oes gennych chi bentwr o egni gartref, dyma’r sesiwn i chi. Mae Teuluoedd Actif yn ymwneud â chael y coesau bach hynny i symud a’r meddyliau bach hynny i fyrlymu. O ddysgu sgiliau newydd i chwarae gemau a fydd yn eu gwneud i chwerthin, mae’n ffordd berffaith i’ch plant bach losgi rhywfaint o’u egni diddiwedd.
Chwarae Blêr: Ydych chi’n barod i adael i’ch Picasso bach ryddhau eu creadigrwydd? Chwarae Blêr yw’r antur synhwyraidd eithaf i rieni a phlant bach fel ei gilydd. Paratowch i gofleidio’r jeli, y tywod a’r sbageti wrth i chi a’ch plentyn blymio i fyd llawn hwyl a sbri lliwgar. Byddwch yn barod am ychydig o lanast, ond llawer o hwyl! (Argymhellir dod â dillad sbar!)
Gan ddechrau gyda Theuluoedd Actif ar 30 Hydref 2023, bydd y sesiynau hyn bob yn ail ddydd Llun o 10 i 11am, gan ei gwneud yn hynod gyfleus i rieni ffitio i mewn i’w hamserlenni. Ni fydd yn rhaid i chi boeni am golli allan ar yr hwyl, a bydd y plant yn cael mwynhad mawr wrth wneud ffrindiau newydd.
Ond arhoswch, mae mwy! Nid hwyl yw unig bwrpas y sesiynau hyn; maent hefyd yn hybu datblygiad sgiliau hanfodol. Mae Teuluoedd Actif yn helpu gyda chydsymud a datblygiad corfforol, tra bod Chwarae Blêr yn annog creadigrwydd ac archwilio synhwyraidd.
Mae Laura Samuel, Swyddog Datblygu Gweithgaredd Corfforol a Chwarae Ceredigion Actif, sydd wedi trefnu’r sesiynau hyn. Mae’n edrych ymlaen at eu lansio a dywedodd: “Gall Teuluoedd Actif a Chwarae Blêr wneud gwahaniaeth mawr i rieni. Bydd plant bach yn edrych ymlaen at y sesiynau hyn bob wythnos, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn dysgu ac yn tyfu wrth gael hwyl!”
Felly, gwnewch nodyn yn eich calendrau, rieni! Mae’r sesiynau plant bach hyn ar fin dod yn uchafbwynt eich wythnos. Dewch â’ch plant, rhyddhewch eu hartistiaid mewnol, a gadewch iddynt losgi rhywfaint o stêm. Peidiwch â cholli allan ar yr hwyl yn eich Canolfan Les leol.
Codir tâl o £3 y plentyn fesul sesiwn ar Deuluoedd Actif a Chwarae Blêr. Disgwylir i rieni aros gyda’u plant yn ystod y sesiynau hyn er mwyn sicrhau eu diogelwch a’u mwynhad.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle, ffoniwch Canolfan Lles Llambed ar (01570) 422552. Mae’n bryd i’ch plant bach fod yn actif a chreadigol!