Sinema Awyr Agored yn dod i Gampws Llambed

Y Brifysgol yn trefnu digwyddiad o’r fath am y tro cynta’ erioed ar y campws

gan Lowri Thomas

Dangosir y ffilmiau ar lawnt yr Hen Goleg yn Llanbed, y gyntaf – Top Gun Maverick ar nos Wener, Gorffennaf 21ain a’r ail, Mamma Mia, ar nos Sadwrn 12fed o Awst.

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost y Campws, fod y digwyddiadau:

“yn rhan o’r broses barhaus o gryfhau’r berthynas rhwng y Brifysgol a’r dref. Ry’ ni’n gobeithio’n fawr y daw criw da – yn bobl leol ac yn ymwelwyr â’r dref – i’r digwyddiadau hyn. Mae’r ffilmiau wedi eu dewis yn ofalus gyda’r bwriad o ddenu cymaint â phosibl i’r digwyddiadau.”

Mae modd archebu tocynnau i’r Sinema Awyr Agored – sy’n £5.00 yr un – drwy ddilyn y ddolen hon Trinity Saint David online ticket sales powered by TicketSource.  Bydd drysau’r sinema’n agor am 7.00 yr hwyr gyda’r ffilmiau’n dechrau am 8.30 yr hwyr.