Sioe Gorsgoch a CFfI Llanwenog 2023

Canlyniadau a hanesion y Sioe

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
IMG-20230829-WA0011
IMG-20230829-WA0019-1

Cynhaliwyd 41ain Sioe Amaethyddol, Cynnyrch, Ceffylau, Sioe Gŵn a Hen Beiriannau Gorsgoch a C.Ff.I. Llanwenog ar gaeau Glwydwern, Llanwnnen, trwy garedigrwydd Elfyn a Sharon Morgans ar ddydd Sadwrn, 19eg o Awst. Prif elusen y sioe eleni oedd Ysbyty Plant Arch Noa.

Ynghyd â’r cystadlaethau yn y babell ac ar y cae, cafwyd cwpl o stondinau lleol, mabolgampau i blant, paentio wynebau ac ocsiwn llwyddiannus iawn yng ngofal Eifion Morgans. Yna, cafwyd noson deuluol gydag Elin Haf yn diddanu’r plant, gyda rasus parlwr i ddilyn, oedd yn dipyn gwahanol i’r arfer lle cawsom ras fyw yng nghanol y babell, diolch i bawb fu’n trefnu.

Er mawr foddhad i aelodau’r pwyllgor a chefnogwyr y sioe, yn dilyn storm Beti Nos Wener, cafwyd tywydd boddhaol a sioe lwyddiannus iawn o ran niferoedd a safon y cystadlu. Ein llywyddion eleni oedd Mr a Mrs Gary Watkins, Alltyblaca, sydd yn gefnogol iawn i’r sioe bob amser.  Cyflwynwyd y gwobrau i’r canlynol:

CEFFYLAU: Ceffylau mewn llaw – Pencampwr – Dai Evans, Clogfryn, Aberaeron (Trehewyd Welsh Doll). Is-bencampwr – Megan Davies, Gerynant (Sophie-Ann) (Trehewyd ; Marchogaeth – Pencampwr – Holly Clarke gyda Apatche Dawn. Is-bencampwr – Louise Jenkins (Otto). Hynodion y Ceffylau – Eli Ann Evans, Cwmplas, Llandysul. Pencampwr yr adran geffylau, ac yn derbyn cwpan Hang-On yn rhoddedig er cof am Tim a Dorothy Thomas, Ffynon Rhys – Trehewyd Welsh Doll, Dai Evans, Clogfryn.

DEFAID: Defaid Llanwenog – Pencampwr – Teulu Morgans, Glwydwern (oen). Is-bencampwr – Huw Evans, Alltgoch (dafad). Gwobr Cymdeithas Defaid Llanwenog – Teulu Morgans, Glwydwern. Defaid Speckled – Pencampwr – Teulu Jones, Blaenblodau (hwrdd). Is-bencampwr – Teulu Jones, Blaenblodau (dafad). Defaid Continental – Pencampwr – Ianto Hughes, Cwmhendryd (dafad). Is-bencampwr – Gareth Lloyd, Clettwr (dafad). Unrhyw frîd “Lowland” arall – Pencampwr – Eilir Jones, Tandderi (hwrdd). Is-bencampwr – Teulu Jones, Fronheulog (hwrdd). Unrhyw frîd mynyddig arall – Pencampwr – Crimes, Gafryw (dafad) Is-bencampwr – Kevin Davies, Llwynfedw (oen). Oen i’r cigydd – Pencampwr – Eilir Evans, Tandderi ac Is-bencampwr – Teulu Jones, Blaenhirbant. Pencampwr y Pencampwyr yr adran ddefaid, ac yn ennill cwpan her Wyn Morgans, Glwydwern – Ianto Hughes, Cwmhendryd. Yn ennill tarian Her Danny Davies, Llain i’r arddangoswr a’r marciau uchaf yn adran y defaid- Elfyn Morgans, Glwydwern. Arddangosydd gorau oed ysgol gynradd – Ela Freeman, Llanon.

HEN BEIRIANNAU: Pencampwr, ac yn ennill cwpan her Jim Evans, Fronwen – Sion Thomas, Pontsian.

GWARTHEG BIFF: Pencampwr – Teulu Morgans, Glwydwern (buwch a llo heffer). Is-bencampwr – Dai Thomas, Gorsgoch.

GWARTHEG GODRO: Pencampwr – Teulu Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd (buwch mewn llaeth). Is-bencampwr – Paul Williams, Clyncoch.  Buwch neu dreisiad odro orau o fuches di-linach- Alan Davies, Tyngrug Isaf.

SIOE GWN: Pencampwr, Tony Kitchen, gyda Eurig y ci.

Y BABELL: Cynnyrch Gardd – Bessie Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd; Coginio – Gwenno Evans, Lluest Fach, Synod Inn; Gwinoedd – Sirian Davies, Coedlannau Fach, Cwrtnewydd; Cyffaith – Margaret Jones, Bronallt, Cwrtnewydd; Gwaith Llaw – Joan Jones, Llainwen, Llambed; Blodau – Erika Davies, Felinban; Cystadlaethau 18 oed neu iau – Lleucu Haf Thomas, Llety Aur, Blaenporth; Cystadlaethau 28 oed neu iau – Gwawr Hatcher, Argoed, Gorsgoch, hefyd yn ennill Cwpan Her Meinigwynion Mawr am yr aelod gyda’r marciau uchaf yn yr adran CFfI. Adran Plant Ysgol Gynradd: Blwyddyn 6 neu iau – Lisa Thomas, Cwrt y Brodyr, Blaencwrt; Blwyddyn 2 neu iau – Trefor Hatcher Davies, Awel y Bryn, Llanddewi Brefi; Ysgol â’r marciau uchaf yn yr adran arlunio, ac yn ennill tarian her Cyngor Cymuned Llanwenog – Ysgol Dyffryn Cledlyn; Cwpan Her Blaencathal, am focs o gynnyrch gardd – Clwb Hambons, Ysgol Dyffryn Cledlyn; Pencampwr y babell; ac yn ennill cwpan her Malcolm Fuller – Erika Davies, Felinban, Llanwnnen.

Dydd Sul yr 20fed, cawsom rasus soapbox ar gaeau y sioe gyda 8 cart yn troi allan i ddiddanu’r dorf.  Roedd y cwrs yn wahanol i llynedd ac ychydig yn anoddach. Pencampwr: Hatcher Plumbing and Heating ddaeth i’r brig. Y cart gorau: Coed Nadolig Parcyrhos. Arddangoswyr gorau a hefyd y naid hiraf: FlintStones Machynlleth. Cart cyflymaf: Los Muchados.

Hoffai pwyllgor y sioe ddiolch i bawb am eu cefnogaeth di-flino ac edrychwn ymlaen at groesawi pawb yn ôl i’r sioe y flwyddyn nesaf ar ddydd Sadwrn 17eg o Awst 2024.