Sioe C.Ff.I. Llanllwni 2023

Cafwyd diwrnod llwyddiannus yn Sioe C.Ff.I. Llanllwni

gan Owain Davies
Enillwyr, Llywyddion a Chadeirydd Sioe C.Ff.I. Llanllwni

Enillwyr, Llywyddion a Chadeirydd Sioe C.Ff.I. Llanllwni

Pencampwr-adran-y-defaid

Pencampwr adran y deafaid, Anwen yn Jones yn arddangos gyda’r beirniaid Elin Hughes a Gary Williams

Cafwyd diwrnod llwyddiannus ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc yn Sioe C.Ff.I. Llanllwni. Fe’i cynhaliwyd ar gaeau Anwylfan, Llanfihangel ar Arth drwy garedigrwydd Mr a Mrs Griffiths a’r teulu. Rhennir yr elw eleni rhwng Unedau Oncoleg a gofal Coronaidd Ysbyty Glangwili, achosion agos at galonnau’r aelodau. Dau o wynebau cyfarwydd â chefnogol y fro, Mr Dewi a Mrs Bet Davies, Llanybydder oedd llywyddion y dydd. Magwyd Dewi yn Llanllwni a bu’n aelod a chadeirydd gweithgar yng Nghlwb Llanllwni.

Daeth sawl busnes ac elusen leol a stondinau o amgylch y cae i ychwanegu at ddifyrwch y dorf, ynghyd a’r mabolgampau a chystadlaethau bychain, megis dyfalu nifer y smotiau ar Pablo (y Shetland).

Roedd y cystadlu eisoes wedi dechrau cyn y sioe gyda’r beirniad gwartheg, Ifan Williams yn mynd o amgylch y ffermydd. Prynhawn y sioe gyda lluniau’r ymgeiswyr yn cael dangos ar y sgrin, cyflwynodd ei resymau gyda graen aelod llwyddiannus o’r mudiad. Cipiodd Teulu Howells, Gwarallt Gwpan Arthur Evans a’i Fab am bencampwr yr adran gyda’i buwch odro mewn llaeth.

Cafwyd cystadlu brwd yn y babell ac ar y Cae drwy gydol y dydd. Yn yr adran ddefaid wedi prynhawn o feirniadu dosbarthiadau mynydd ac iseldir dyfarnwyd y bencampwriaeth i enillydd dosbarth yr hwrdd cyfandirol, sef hwrdd Beltex o eiddo Teulu Jones, Blaenblodau, nid nepell o gae’r sioe. Roedd hefyd yn dda gweld 6 arddangoswr brwd yn y dosbarthiadau tywyswyr ifanc.

Bu cŵn o bob lliw a llun yn cystadlu yn y cylch, ond ‘Charlie’ o eiddo Geraint Thomas oedd dewis y beirniad, Llyr Griffiths, Llanwenog. Cafwyd hefyd arddangosfa gref o hen dractorau gyda’r cwpan her er cof am John a May Lewis, Talardd, Llanwnnen yn mynd i Tom Lewis.

Yn adran y plant ac ieuenctid enillodd Megan Gibbon, Einir George a Iestyn Evans gwpanau am arddangosfa orau eu categori oedran.

Cyflwynwyd cwpanau i enillwyr y nifer uchaf o bwyntiau yn eu hadrannau i’r canlynol: Defaid Iseldir: Teulu Jones, Blaenblodau; Defaid Mynydd: Geraint Evans a’r teulu, Pantycoebal; Gwartheg Bîff: Teulu Lewis, Gwarcoed Einon; Gwartheg Godro: Teulu Davies, Gwndwn; Llysiau: Eric a Janet Jones, Blodau: Janet Jones; Cynnyrch Fferm: Teulu Jones Blaenblodau; Coginio, Gwinoedd a Chyffeithiau: Menna Jones; Crefft: Janice Jones; Ffotograffiaeth: Barry Smith.

Yn y nos cafwyd llond bola o fochyn wedi ei rostion wrth wylio ‘Taclo’r Tasgau’. Wedi cystadlu ar sawl tasg Llyr, Owain, Siôn a Dafydd enillodd yr adran Iau gyda Catrin, Dan, Rhys a Buddug yn fuddugol gyda’r oedolion. Tynnwyd y raffl fawr ac roedd y ‘bids’ yn hedfan yn yr fawr gyda’r ocswinear medrus, Llyr Jones, wrth y llyw.

Gyda hyd yn oed yr haul wedi gwneud ymweliad byr erbyn y prynhawn, bu’n sioe lwyddiannus ac yn benllanw misoedd o waith gan swyddogion ac aelodau C.Ff.I. Llanllwni.