Siopa Nadolig yn Llanbed

Y Cyngor Tref a’r Siambr Fasnach yn cefnogi busnesau Llanbed

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_7809

Y criw yn gosod y goleuadau Nadolig ger Sgwâr Harford

IMG_7815

Y goeden Nadolig hardd ger y Ffynnon, Sgwâr Harford

IMG_7814

Y Stryd Fawr wedi ei goleuo’n lliwgar

IMG_7818

Stryd y Coleg wedi ei goleuo’n hardd

Dewch i dref groesawgar Llanbed y Nadolig hwn i wneud eich siopa Nadolig a mwynhewch hwyl a naws yr Ŵyl. Mae’r dref yn lliwgar iawn gyda’r holl oleuadau Nadolig yn eu lle, y goeden fawr Nadolig ar Sgwâr Harford a’r 62 o goed bach Nadolig wedi eu gosod yn nifer o’r bracedi sydd uwchben y siopau. Mae’r strydoedd wedi eu goleuo’n hardd i’ch croesawu gydag amrywiaeth o siopau lleol yn gwerthu ystod eang o eitemau i’w rhoi’n anrhegion Nadolig. Diolch yn fawr iawn i’r timau gweithgar ac ymroddgar o wirfoddolwyr weithiodd mor galed ddydd Sul 26ain yn addurno’r dref. Cewch yr hanes a’r lluniau yn erthygl Dylan Lewis ar Clonc360.

Mae Llanbed yn barod i groesawu’r byd a’r betws i’w ‘Noson Siopa Nadolig’ a gynhelir nos Iau 30ain Tachwedd rhwng 4.00 ac 8.00 o’r gloch. Bydd y Stryd Fawr ar gau i gerbydau a bydd nifer o stondinau yn gwerthu pob math o gynnyrch ac eitemau. Dewch â’ch rhestr siopa Nadolig i Lanbed! Trefnwyd adloniant fydd yn cynnwys canu carolau gan Gôr Meibion Cwmann, cerddoriaeth gan grŵp iwcalili a phaentio gwyneb (am ddim) yn Y Stiwdio Brint. Trefnwyd Helfa Drysor a Raffl gyda gwobrau gwerth eu hennill. Bydd Siôn Corn yn ymweld â’r dref a bydd cyfle i’w gyfarfod yn Yr Hedyn Mwstard ar Stryd y Coleg o 5.00 o’r gloch ymlaen.

Agorir y noson am 4.45 o’r gloch gan Heulwen Beattie, Cadeirydd Siambr Fasnach Llanbed a’r Cynghorydd Rhys Bebb Jones, Maer Llanbed. Edrychwn ymlaen at groesawu Gabrielle Davies a Donald Morgan (dau o dîm y gyfres flodau poblogaidd ‘Y ’Sgubor Flodau’ ar S4C) fydd yn pwyso’r botwm am 4.55 o’r gloch i oleuo’r goeden.

Diolch yn fawr i’r criw wnaeth osod yr holl oleuadau a’r coed Nadolig, i’r tîm wnaeth drefnu’r Noson Siopa Nadolig ac i’r caredigion wnaeth gyfrannu tuag at y gwobrau – diolch yn fawr yn arbennig i’r canlynol:

Bargain Box

Bwydydd Castell Howell

Canolfan Addurno AAA

Canolfan Arddio Robert

Carpedi Gwyn Lewis

Conti’s

Creative Cove

Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan

D L Williams

Dylan Dudley (Trydanwyr)

Fferyllfa Adrian Thomas

Get Connected

Gorsaf Dân Llanbedr Pont Steffan

Gwasanaeth Coed Llanbed

Gwilym Price, ei Fab a’i Ferched

Yr Hedyn Mwstard

LAS Recycling

Lois Designs

Llew Du

Siambr Fasnach Llanbedr Pont Steffan

Y Stiwdio Brint

Tanygroes Rosettes

Teify Forge

W D Lewis

Watson and Pratt’s

Mae croeso arbennig i chi yn Llanbed y Nadolig hwn. Dewch i fwynhau’r hwyl a naws yr Ŵyl wrth siopa yn nhref groesawgar, liwgar a hyfryd Llanbed.

Y Cynghorydd Rhys Bebb Jones, Maer Llanbed a Heulwen Beattie, Cadeirydd Siambr Fasnach Llanbed