Ar nos Sul 20 Tachwedd, darlledwyd cyngerdd arbennig o Efrog Newydd i ddathlu penblwydd S4C yn 40 oed. Yn cymryd rhan roedd rhai o enwogion mwya’ Cymru, gan gynnwys Bryn Terfel a’r actor o Hollywood, Ioan Gruffudd. Ond a oeddech chi’n gwybod bod rheolwr y cynhyrchiad yn un o blant Llanbed? Rhidian Evans, Y Mans, Stryd Newydd gynt oedd hwnnw — mab Beti a Goronwy.
Mae Rhidian wedi treulio dros chwarter canrif yn y diwydiant teledu, ac wedi bod yn gweithio ar amrywiaeth o ddramâu poblogaidd, gan gynnwys ‘Torchwood’ a ‘Casualty’. Dros y blynyddoedd mae wedi cydweithio gydag amrywiaeth o actorion adnabyddus, gan gynnwys pobol fel Kenneth Brannagh, Helena Bonham-Carter a John Barrowman. Erbyn hyn, mae’n gweithio i gwmni Orchard Media o Gaerdydd, a nhw oedd yn gyfrifol am wneud y rhaglen arbennig i ddathlu penblwydd mawr S4C.
“Roedd e’n gyngerdd arbennig iawn, ac yn ddigwyddiad a oedd wedi cymryd tipyn o drefnu gan y tîm a oedd yn gweithio arno fe”, meddai Rhidian. “Fe fuon ni’n ffilmio o gwmpas Efrog Newydd am rai dyddiau hefyd, gyda chyflwynydd y rhaglen — yr actor o Gymru sy’ nawr yn gweithio yn Hollywood, Ioan Gruffudd. Roedd Ioan yn fachan neis iawn, ac roedd hi’n rhwydd iawn i gydweithio gydag e, ac yn bleser, chwarae teg”.
Yn bresennol yn y gyngerdd hefyd yr oedd Ryan Reynolds a Rob McElhenney, dau o sêr Hollywood sy’n enwau adnabyddus yng Nghymru yn ogystal, gan mai nhw sy’n berchen Clwb Pêl-droed Wrecsam. Yn eu cyfres am y clwb ar sianel Disney, ‘Welcome to Wrexham’, mae’r ddau actor yn defnyddio pob cyfle i hyrwyddo Cymru a’r iaith Gymraeg. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gwahodd y ddau i’r gyngerdd er mwyn eu gwobrwyo am eu gwaith yn mynd â Chymru i sylw’r byd.
“Ro’n nhw’n ddau foi ffein hefyd”, meddai Rhidian, “ac ro’n nhw’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi eu gwahodd nhw i’r gyngerdd, a chael cyfle i fwynhau talent y rheiny a oedd yn perfformio — pobol fel Bryn Terfel a’r gantores, Mared. Roedd y cyfan yn brofiad a fydd yn aros yn y cof”.
Stori a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc.