Dydd Sul 10fed o fis Medi aeth taith tractorau mas o Mart Evans Bros yn Llanybydder i godi arian tuag at Eglwys Pencarreg.
Aeth y tractor cyntaf mas o’r pentre am 10.30yb ac yn syth i Rydybont ac heibio’r Hen Felin lan i Fynydd Pencarreg, lawr i Sgwâr Kings Cross ar bwys Rhydcymerau a lan i Fynydd Llanybydder lle cafwyd hoi am ryw hanner awr gyda olygfa hardd lawr y Cwm.
Dechreuodd yr ail hanner yn mynd lawr i bentre Llanllwni a thros Bont Llwni a’r afon Teifi lan i Ryddlan a nôl i bentre Llanybydder lle cawsom fwyd blasus gyda Chegin Cwm Gwaun cyn i’r glaw trwm ddod lawr.
Dywedodd y Parchedig Carys Hamilton, Ficer y Plwyf,
“Ar ran Wardeniaid ac aelodau Eglwys Sant Padrig Pencarreg, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu haelioni, eu caredigrwydd ac am roi o’u hamser i gefnogi y daith tractorau. Bu’n fore llwyddiannus iawn gyda 23 o dractorau o bob lliw a gwneuthuriad yn teithio ar draws cefn gwlad. Gwnaed elw sylweddol o tua £1,300 ac mae’r arian yn dal i ddod mewn. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd!!”