Ni wnaeth y tywydd gwael a glaw trwm wahaniaeth i Daith Tractorau Ffarmers ddydd Sul. Trefnwyd gan Alun Thomas A&B ar teulu.
Gyda thractorau o bob lliw yn cyrraedd pentre Ffarmers o Sir Gâr, Sir Geredigion ac hefyd mor bell a Sir Benfro, dechraeodd y daith am 11 y bore. Roedd 127 o dractorau yn bwrw mas o’r pentre dros y bryn a lawr i Gwrt y Cadno. O fan hynny aethon nhw i bentre Pumsaint a lan hewl gefn i Esgairdawe ble cafwyd rhyw 30 munud i cael clonc.
Ail dechrodd y daith a lan â nhw i Fynydd Llanybydder a lawr i bentre Parc-y-Rhos a mas i Sgwâr Cwmann, lan trwy’r pentre a chymryd yr hewl gefn tu ôl i Dafarn y Ram heibio Esgairgoch a nôl lawr i bentre Ffarmers, ble cafwyd bwyd hyfryd ac amser i fois y tractorau oedd heb gabs i sychu mas ar ôl taith arbennig.
Codwyd yn bell dros £4,000 tuag at elusen Cancer.