127 tractor yn Ffarmers

Codwyd ymhell dros £4,000 tuag at elusen cancer

Gary Jones
gan Gary Jones
0H8A4557

Gareth Thomas A&B y gyrru un o dractorau ei dad Alun ar y daith.

0H8A4278

Cyn dechrau’r daith ar iard A&B Ffarmers.

0H8A4282

Roedd digon o cefnogaeth leol i’r daith ar y dechrau.

0H8A4285

Caredig oedd â’r tractor cynta ar y daith ond mas o Ffarmers heibio’r tŷ capel.

0H8A4307

Gareth James gyda digon o gwmni tu ôl i’r Forden Fach ac injan fawr.

0H8A4426

Un o’r bois caled heb gab Tommi Owens o Lambed a’i Ferguson Grey a Gold.

0H8A4440

Dillad glaw a dim cabs oedd gyda’r bois caled.

0H8A4454

Eirian Evans o Alltyblaca a’i Ford 7000 fel newydd.

0H8A4602

Ifor o Harford, Ffarmers a’i Ferguson 35.

Ni wnaeth y tywydd gwael a glaw trwm wahaniaeth i Daith Tractorau Ffarmers ddydd Sul.  Trefnwyd gan Alun Thomas A&B ar teulu.

Gyda thractorau o bob lliw yn cyrraedd pentre Ffarmers o Sir Gâr, Sir Geredigion ac hefyd mor bell a Sir Benfro, dechraeodd y daith am 11 y bore. Roedd 127 o dractorau yn bwrw mas o’r pentre dros y bryn a lawr i Gwrt y Cadno.  O fan hynny aethon nhw i bentre Pumsaint a lan hewl gefn i Esgairdawe ble cafwyd rhyw 30 munud i cael clonc.

Ail dechrodd y daith a lan â nhw i Fynydd Llanybydder a lawr i bentre Parc-y-Rhos a mas i Sgwâr Cwmann, lan trwy’r pentre a chymryd yr hewl gefn tu ôl i Dafarn y Ram heibio Esgairgoch a nôl lawr i bentre Ffarmers, ble cafwyd bwyd hyfryd ac amser i fois y tractorau oedd heb gabs i sychu mas ar ôl taith arbennig.

Codwyd yn bell dros £4,000 tuag at elusen Cancer.