Traddodiad y Plygain yn fyw yn Eglwysi’r fro

Prynhawn Sul Ionawr yr 8fed daeth Eglwysi’r fro at ei gilydd ar gyfer gwasanaeth o ganu Plygain.

gan Owain Davies
20230108_160404

Parti Eglwysi Llanwenog, Llanybydder a Llanwnnen yn cloi’r Plygain.

Wedi absenoldeb o ddwy flynedd bu eto gwasanaeth Plygain yn Ardal Weinidogaeth Leol Llanbedr Pont Steffan (eglwysi’r Eglwys yng Nghymru y naill ochr ar llall i Ddyffryn Teifi o Lanllwni yn y de i Ystrad Meurig yn y gogledd). Eglwys Santes Gwennog oedd y lleoliad eleni ac roedd yr Eglwys hardd yn orlawn.

Canwyd Gwasanaeth yr Hwyrol Weddi oedd yng ngofal yr Hybarch Eileen Davies a chanwyd emynau a charolau cynulleidfaol i gyfeiliant yr hen organ ysblennydd.

Ond pinicl y gwasanaeth oedd cyflwyniadau aelodau eglwysi’r ardal o garolau’r Plygain. Mentrodd pedwar parti ac un unawdydd ymlaen i ganu’n ddi-gyfeiliant.

Parti Eglwys Llanllwni ddaeth gyntaf yn canu ”Tra mwywn ar gyflym adennydd” yna daeth Eglwys Cwmann. Cyflwynodd unawdydd Eglwys Llangybi ei garol yn Lladin cyn i barti Eglwys Llanbed ddod nôl â ni at garol Gymreig draddodiadol. I gloi’r wledd o ganu parti unedig eglwysi Llanwenog, Llanybydder a Llanwnnen ganodd y garol adnabyddus ”Wele’n gwawrio ddydd i’w gofio”.

Cafwyd prynhawn ysbrydoledig yng nghwmni’n gilydd gyda phawb wedi mwynhau’r lluniaeth ar y diwedd!