Wythnos yn llawn gweithgareddau cyn Carnifal Llanbed

Tipyn o hwyl yn yr helfeydd trysor a’r cwis

gan Carnifal LLanbed
B5DF20B8-4491-4226-80C5
FBF97197-0E4F-4763-96B7
7B1C4519-DF64-41D3-A2CD
9F3ABACA-4EB4-457F-8DF0
6F8D0081-0451-4938-88D4
DF75762D-D205-47F0-A7FB

Cafwyd wythnos lwyddiannus o weithgareddau yn Llanbed yn arwain at ddiwrnod mawr y Carnifal heddiw.

Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi helfa drysor cerdded nos Lun. Roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobol mas ar y strydoedd yn cefnogi’r Carnifal. Y trefnwyr oedd Llunos Bowen a Mareth Lewis.  Yr enillwyr oedd Huw a Gwawr Bowen, 2il oedd Miriam & co ac yn drydydd Rhian, Glenda, Sara a Leanne.

Diolch i bawb a ddaeth mas ar yr helfa drysor i geir nos Fercher, a diolch i Nerys James Davies, Rhys a Reth am drefnu’r helfa. Yr enillwyr oedd Rhian a Sara, yn 2il oedd Gwawr, Rhian ac Elen ac yn 3ydd Tim, Jenny ac Annwen.

Diolch hefyd i bawb a ddaeth mas i gefnogi Cwis Carnifal Llanbed nos Iau. Hyfryd gweld cymaint o bobol yn y Clwb Rygbi. Diolch i Meryl a’i help Dan am wneud y Cwis, grêt fel arfer. Yn gyntaf oedd tîm Brenhines y Carnifal Tia, 2il oedd tîm Emma & Co, 3ydd oedd Sara Jarman, Rhian, Elen, Gwawr a Rhian.

Edrych ymlaen i’ch gweld chi yn y Carnifal prynhawn ma.  Os hoffech flas o Garnifal Llanbed dros y blynyddoedd erdychwch ar hen adroddiadau Clonc360.