Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Aelodau’r Ysgol Sul ar ôl Y Cwrdd Diolchgarwch
Y criw ar ôl perfformio ym Maesyfelin
Trigolion Maesyfelin a rhai aelodau o’u teuluoedd yn joio’r cwrdd.
Cynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch hyfryd yng Nghapel Brynhafod, Gorsgoch yn ddiweddar gyda phlant yr Ysgol Sul yn arwain.
Da iawn i’r holl blant am ganu, llefaru, darllen, gweddïo a dawnsio!
Mwynhaodd bawb de a gwledd o fwyd ar ôl y gwasanaeth yn Neuadd yr Hafod.
Yn dilyn hyn, ar ddydd Sul 5ed Tachwedd, aethon ni i ymweld â Chartref Maesyfelin yn Nrefach i gynnal y gwasanaeth. Cafwyd croeso cynnes ac rwy’n credu i’r holl drigolion fwynhau. Diolch am y croeso a’r te parti bach ar ôl y perfformio.