Aduniad teimladwy yn Llambed

Llifodd ffrwd o gyn-fyfyrwyr hiraethus, eiddgar i gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

gan Mared Anthony

Penderfynwyd ar y digwyddiad, a alwyd ‘Yr Aduniad Shambolig’ gan y grŵp, yn dilyn trafodaeth frwd ar fforwm cyfryngau cymdeithasol cyn-fyfyrwyr Coleg Prifysgol Dewi Sant, lle bu hen ffrindiau’n hel atgofion am eu dyddiau ym Mar yr Undeb a’r gymuned glos a wnaeth eu blynyddoedd prifysgol yn fythgofiadwy.

Er gwaetha’r enw chwareus, doedd dim byd ‘shambolig’ am yr aduniad gan ei fod yn ddathliad twymgalon wedi’i gynllunio’n feddylgar, o’u hanes cyffredin.

Pan grybwyllwyd y syniad o gael hen fandiau yn ôl at ei gilydd, gwirfoddolwyd Zoë Roddis (BA Llenyddiaeth Saesneg, 1993) i gymryd yr awenau. A hithau’n Arbenigwr Marchnata erbyn hyn, roedd ei chyfoedion yn ymddiried yn Zoë am ei harbenigedd a’i sgiliau trefnu. Aeth ati’n gyflym i droi’r olwynion cynllunio, gan sicrhau y byddai pob manylyn o’r aduniad yn crisialu hanfod eu dyddiau dedwydd yn fyfyrwyr.

Wrth fyfyrio ar ei hamser yn Llambed, meddai Zoë:

“Doedd dim ots pwy oeddech chi, na beth oedd o ddiddordeb i chi, na beth oeddech chi’n sefyll drosto, roedd pawb yn eich derbyn chi. Fyddai neb yn hidio. Roedd e’n amgylchedd mor ddiogel i gymryd y cam cyntaf o dyfu i fyny. Rydyn ni’n edrych yn ôl ar ein hamser yno gydag atgofion melys iawn.”

Arhosodd cyn-fyfyrwyr yn y Neuaddau Preswyl, bwyta yn y Ffreutur, ac yfed ym Mar yr Undeb. I osod y cywair ar gyfer y penwythnos, lluniwyd rhestr chwarae gyda hoff ganeuon pawb o’r hen jiwcbocs.

Uchafbwynt y digwyddiad, heb os, oedd dychweliad tair act gerddorol o’r cyfnod, a drefnwyd gan Nick Bradshaw (BA Llenyddiaeth Saesneg, 1991) a atgyfododd ei hen rôl yn Swyddog Adloniant Undeb y Myfyrwyr. Bu’r bandiau Dim Disgo Heno, Shoot the Drummer, ac Edmund Estefan a’r Mydroilyn Sound Machine yn diddanu’r cyn-fyfyrwyr, gyda Nick yn ail-greu hud y gorffennol trwy ddod yn ôl â’r un cyflenwyr offer sain o’r 80au a’r 90au i sicrhau profiad go iawn.

Wrth sôn am ddychwelyd i Lambed, meddai Nick:

“Roedd llawer ohonom ni’n bryderus o ddifetha rhywbeth arbennig a oedd ar gof a chadw gyda ni ers amser maith. Yn lle hynny, cafodd y gorffennol ei ddiogelu heb ei newid, a chafodd epilog godidog ei ychwanegu ato fe.”

Perfformiodd Lisa Miller (BA Llenyddiaeth Saesneg, 1991) yn y band Dim Disgo Heno, a enwyd o boster a oedd bob amser yn ymddangos pan oedden nhw’n chwarae yn ystod eu dyddiau’n fyfyrwyr. Doedden nhw ddim wedi chwarae gyda’i gilydd ers 1991, ond ar ôl ymarfer cyflym, dyma nhw’n perfformio set o chwe chân, gan roi perfformiad nodedig a phlesio’r dorf.

Meddai Lisa:

“Yr aduniad oedd un o’r profiadau hyfrydaf i mi ei gael erioed. Roedd yn swreal gweld y casgliad yna o unigolion yn yr un lle arbennig hwnnw.”

Y tu hwnt i’r gerddoriaeth a’r miri, bu’r aduniad hefyd yn atgof dwysbigol o’r effaith barhaol a gafodd Llambed ar ei myfyrwyr. Myfyriodd llawer o’r rhai a oedd yn bresennol ar yr ymdeimlad dwys o golled a ddaeth i’w rhan nhw ar ôl graddio. Roedd yr ymdeimlad cyffredin o berthyn a derbyniad yn Llambed yn thema gyffredin yn eu straeon, gyda llawer yn dweud sut y cawson nhw nyth yn amgylchedd unigryw’r brifysgol.

Meddai Julie O’Donnell (BA Daearyddiaeth, 1992):

“Y bobl, a’u holl hynodion a’u cymeriadau, yr undod a’r cariad cyffredin at fywyd a phrofiad Llambed, oedd beth wnaeth fy amser i yno mor arbennig.”

Rhannodd Steve Scaddan (BA Daearyddiaeth, 1993) deimladau tebyg:

“Yr hyn oedd efallai fwyaf gwerthfawr oedd profi safbwyntiau amrywiaeth eang o bobl amrywiol, sydd wedi fy ngalluogi i ymgysylltu â chydweithwyr a chwsmeriaid o bob cefndir lle bynnag yr wyf wedi gweithio. Roedd yr ymdeimlad o gymuned a derbyniad yn Llambed yn ddigyffelyb.”

Un foment arbennig o deimladwy oedd seremoni plannu coed i anrhydeddu cyn-fyfyrwyr sydd wedi ein gadael ni. Rhoddodd Andy Rose (BA Cymraeg, 1994) araith deimladwy, yn esbonio lleoliad y goeden ger yr Undeb, yn symbol o’r bwrlwm a’r hwyl a rannwyd yn y lle hwnnw.  Dywedodd,

“Roedd hi’n foment arbennig, i oedi a chofio’r rhai na allen nhw fod gyda ni, ac sydd wedi mynd yn rhy ifanc, yn rhy fuan.”

Gwnaeth yr aduniad hwn, a oedd yn llawn llawenydd a hiraeth, nid yn unig ailgynnau hen gyfeillgarwch a dod ag atgofion gwerthfawr yn ôl, ond hefyd cadarnhau’r cwlwm parhaus rhwng cyn-fyfyrwyr Llambed. Wrth iddyn nhw ymadael, ynghyd â phennau tost, aeth y mynychwyr â chynhesrwydd a chyfeillgarwch y penwythnos gyda nhw. Amlygodd yr Aduniad Shambolig effaith barhaol Llambed a’r cysylltiadau cryf a oedd yn parhau er gwaethaf amser a phellter.

I lawer o’r rhai oedd yno, hwn oedd y tro cyntaf iddyn nhw ddod yn ôl i Lambed. Gydag ail aduniad eisoes ar y gweill, y gobaith yw na fyddan nhw’n aros mor hir cyn dychwelyd eto.

Ychydig wythnosau’n unig ar ôl aduniad y grŵp, cynhaliodd y campws Aduniad Blynyddol Cymdeithas Llanbedr Pont Steffan, gan groesawu ail grŵp mawr o gyn-fyfyrwyr yn ôl i’r campws. I ddysgu rhagor am weithgareddau Cymdeithas Llanbedr Pont Steffan, ewch i: Cymdeithasau Cyn-fyfyrwyr | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)

Dweud eich dweud