Clebran, hel atgofion, canu a dawnsio yn Aduniad Ysgol Uwchradd Llanbed

Cyn disgyblion a ddechreuodd ym 1979 yn dod ynghyd yn ogystal ag aelodau staff

gan Tracey Williams
PHOTO-2024-06-30-21-27-22-1
PHOTO-2024-06-30-21-27-21

Athrawon

PHOTO-2024-06-30-21-27-20

Trefnwyr y noson

Cafwyd noson wych yng Nghlwb Rygbi Llanbed yn ddiweddar wrth i dros 70 o bobl ddod ynghyd ar gyfer aduniad Ysgol Uwchradd Llanbed.

Daeth cyn disgyblion a ddechreuodd yn yr Ysgol yn y flwyddyn 1979 ynghyd yn ogystal ag aelodau o staff y cyfnod.

Bu yna glebran, hel atgofion, canu a dawnsio gwefreiddiol wrth ail gwrdd â hen ffrindiau. Roedd hon yn wir yn noson i’w chofio.

Diolch enfawr i Donna Davies a chyfeillion y Clwb Rygbi am y bwyd amheuthun a’r croeso.

Diolch hefyd i’r trefnwyr am ddod â phawb at ei gilydd unwaith eto.

Mae yna sôn am aduniad arall pan fydd y criw yn dathlu’r garreg filltir o 60 oed – ymhen rhyw dair blynedd.  Amdani !