Aeth ‘conker’ yn sownd lan fy nhrwyn

Owen Heath y Diffoddwr Tân o Lanbed sy’n ateb cwestiynau “Cadwyn y Cyfrinachau” ym Mhapur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
7CF19C85-5B64-40FD-AA0C

Mae Owen Heath yn gweithio i Volac ac yn Ddiffoddwr Tân ar alwad yn Llanbed.  Fe sy’n ateb cwestiynau “Cadwyn y Cyfrinachau” yn rhifyn mis Chwefror Papur Bro Clonc.

Dyma flas i chi o’i atebion,

Yr eiliad o’r embaras mwyaf
Pan on i’n 7 oed, aeth ‘conker’ yn sownd lan fy nhrwyn. Pam hwpes i fe lan ’na, sai’n siŵr! Roedd rhaid mynd lan i A&E yn Bronglais. Roedd y ‘conker’ mor bell lan fy nhrwyn, bu’n rhaid mynd lawr i Ysbyty Glangwili at yr arbenigwyr clust, trwyn a gwddf.

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn
I beidio â rhoi pethau lan fy nhrwyn.

Taset ti’n fisged, pa fath fyddet ti a pham?
‘Custard Cream’… caled ar y tu fas ac yn feddal y tu fewn.

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio ar dy fywyd di?
Methu dathlu fy mhenblwydd yn 18 gyda phobl, a’r oedi i basio prawf gyrru.

Taset ti’n anifail, pa anifail fyddet ti a pham?
Ci – byta a chysgu drwy’r dydd.

Beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden?
Mynd i Castle Green i weld Mamgu a Tadcu, a mynd i’r ‘gym’.

Pa mor aml wyt ti’n gweddïo?
Pan mae Mam yn dreifo.

Pa fath o ddeddf hoffet ti weld Llywodraeth Cymru yn ei phasio?
Cael gwared ar yr 20 milltir yr awr.

Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol?
Pasio cwrs y Frigâd Dân.

Wyt ti’n difaru rhywbeth?
Rwy’n difaru peidio ag aros yn Awstralia yn hirach.

Os am ddarllen mwy o’r hyn a ddywedodd Owen, prynwch gopi personol o Bapur Bro Clonc sydd ar werth mewn siopau lleol neu fel tanysgrifiad digidol ar y we.