Agoriad swyddogol Cylch Meithrin Pont Pedr

Carreg filltir arwyddocaol i addysg plentyndod cynnar yn Llanbed

Ann Bowen Morgan
gan Ann Bowen Morgan
A0E8520B-4DFB-495C-AF2D

Cynhaliwyd agoriad swyddogol Cylch Meithrin Pont Pedr ar ddydd Gwener, 8fed o Dachwedd gan nodi carreg filltir arwyddocaol i addysg plentyndod cynnar yn Llanbed.

Daeth swyddogion lleol, addysgwyr a rhieni i’r agoriad er mwyn amlygu pwysigrwydd y cylch yma yn ein cymuned. Cafwyd bore hyfryd yn tywys pawb o amgylch y cyfleuster, gan arddangos yr ystafell ddosbarth sy’n briodol i’w hoedran a’r ardaloedd awyr agored.

Cafwyd ymweliad gan Dewin, masgot y Mudiad Meithrin. Buodd yn mwynhau’r dathlu  a helpu’r dysgwyr ifanc i dorri’r gacen gan Caffi Mark Lane.

Agorwyd y cylch yn swyddogol gan Faer y dref sef Gabrielle Davies.  Bu’r plant bach yn brysur yn creu lluniau dathlu a dangos eu doniau creadigol i bawb a chafwyd cyfarchiad gan Gadeirydd y Cyngor Sir Mr Keith Evans a’r swyddog arweiniol addysg Mrs Elen James

Mae ein dyled yn fawr i Mrs Carole Williams, Swyddog Sefydlu a Symud Talaith y De Orllewin a’r Canolbarth, Swyddogion y Sir a Dechrau’n Deg am bob arweiniad a chymorth i sicrhau bod Llanbed yn medru cynnig y ddarpariaeth yma i blant 2 a 3 oed yn y Gymuned.

Diolch i’r pwyllgor brwd a fu wrthi ers misoedd yn trefnu popeth.

Dweud eich dweud