Meddwl bod darn o reilffordd yn ailagor yn Llangybi

Preswylwyr wedi derbyn llythyr am waith gan Network Rail ger Fferm Maes y Forest

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
60207460-D099-4F74-88CC

Llun y llythyr gan Cathie Cook ar facebook.

Mae rhai preswylwyr yn ardal Llangybi a Llanfair Clydogau wedi derbyn llythyr yn eu hysbysu am waith ffordd gan Network Rail ger Fferm Maes y Forest.  Gellir meddwl bod gwaith yn digwydd o’r diwedd er mwyn ailagor y rheilffodd rhwng Llanbed a Thregaron?

Llythyr gan Core Highways yw hwn yn dweud bod cwmni Dyer & Butler yn bwriadu gwneud gwaith hanfodol ar ran Network Rail ar y ffordd rhwng mynedfa Fferm Maes y Forest a chyffordd Llangybi yn Llanfair Clydogau.  Bydd y gwaith yn digwydd rhwng 8 y bore a 5 y prynhawn o’r 10fed i’r 12fed o Fehefin.

Rhyfedd meddwl y byddai hen drên yn arfer teithio lein “Milford to Manchester”, neu Caerfyrddin i Aberystwyth drwy Llangybi. Roeddwn yn meddwl felly a yw ymgyrch Trawslink Cymru wedi llwyddo i ailagor y rheilffordd o glywed bod Network Rail yn gweithio yn yr ardal?  Ar y llaw arall, ydy Network Rail yn gwneud gwaith ffordd heblaw ar reilffyrdd?

Ond gwaith trwsio hen bont reilffordd yw hyn mae’n debyg a gwelliannau i’r ffordd rhwng Llangybi a Llanfair Clydogau.  Bydd ffordd amgen i gerbydau drwy Lanbed yn ystod cyfnod y gwaith.