Alwena Mair Owen yn ennill cystadleuaeth Cyfeilio i Gerdd Dant yn y Genedlaethol

Wythnos brysur a llwyddiannus i ferch o Lanllwni

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llongyfarchiadau i Alwena Mair Owen o Lanllwni ar ennill cystadleuaeth cyfeilio i Gerdd Dant yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener.  Roedd Alwena yn cyfeilio ar y delyn. Dyma ddangos tipyn o feistrolrwydd a’r beirniaid oedd Kym Lloyd Jones a Gavin Ashcroft.

Yn ogystal â hyn, cafodd Alwena wythnos brysur iawn ym Mhontypridd a llwyddiannau mewn cystadlaethau o safon.

  • Ail ar Unawd Offerynnol Rhuban Glas 16 oed dan 19 oed.
  • 2ail ar Wobr Gwyneth Morus Jones Rhuban Glas Ieuenctid 16 oed dan 21 oed.

Ardderchog yn wir.