Ystyried symud astudiaethau Dyniaethau o Brifysgol Llanbed

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ystyried symud astudiaethau Dyniaethol o Lanbed.

gan Ifan Meredith

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ystyried symud astudiaethau Dyniaethol o’u campws yn Llanbed, i Gaerfyrddin o fis Medi 2025 ymlaen.

“dirywiad cynyddol yn nifer y myfyrwyr sy’n cael eu haddysgu wyneb-yn-wyneb.”

Dywed llefarydd ar ran PCYDDS eu bod yn ystyried cynnig i adleoli astudiaethau Dyniaethau’r brifysgol i Gaerfyrddin o’r flwyddyn academaidd nesaf ymlaen oherwydd dirywiad yn y nifer o fyfyrwyr sydd ddim yn “sefyllfa gynaliadwy, ac mae’n rhaid inni weithredu”.

“Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gadw prif ystâd y campws yn Llambed a chanfod dulliau amgen o gynnig gweithgareddau sy’n ymwneud ag addysg a fydd yn rhoi bywyd newydd a dyfodol mwy diogel i’r campws”.

Wedi ei sefydlu yn 1822, Prifysgol Llanbed yw’r brifysgol hynaf yng Nghymru ac yn cael ei hysbysebu gan PCYDDS fel “dechreuad addysg uwch yng Nghymru”.

Mewn e-bost at fyfyrwyr, mi fydd y trafodaethau yn cychwyn mewn cyfarfod ddydd Mercher (13ain o Dachwedd) am 3 yp.

“Methu credu eu bod yn gwneud hyn i gampws ag arwyddocâd Cymreig hanesyddol”

Mae’r gymuned wedi bod yn gyflym i ymateb gyda un cyn-fyfyrwraig, sydd bellach yn byw yn yr ardal, Hannah Janes-Maher ei bod hi’n “drist i gerdded heibio’r campws a’i beidio weld yn llawn myfyrwyr ynghyd â bod yr Undeb Myfyrwyr ynhau”.

“Maent wedi llwyddo i sarnu campws Llanbed, ac mae’n drienu” meddai wrth Clonc360.

“addysg uwch wedi bod yn rhan annatod o hunaniaeth Llambed ers dwy ganrif”

Dywedodd Ben Lake, AS dros Ceredigion Preseli bod “newyddion heddiw yn achos pryder mawr”.

Mae Ben Lake wedi datgan y byddai yn “cwrdd ag arweinwyr lleol i sicrhau bod Llambed yn parhau’n dref brifysgol” gan nodi ei fod yn “gwybod pa mor bwysig yw’r brifysgol i’r dref”.

“Mae’r brifysgol yn rhan annatod o gymuned Llanbed”

Mae Nathan Topham wedi bod yn astudio Athroniaeth ar y campws ers 2022 a dywedodd wrth Clonc360 bod yna “gyswllt cryf rhwng trigolion lleol a myfyrwyr”.

“Petai’r cynlluniau yma yn cael eu gweithredu, byddai’r cyswllt yma rhwng y dref a’r brifysgol, byddai’r ddwy gymuned yn cael eu heffeithio yn fawr”.

“pobl yn rili shocked”

Caitlin Regola yw cynrychiolydd cwrs Datblygiad Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mi fydd hi yn graddio yn Haf 2025 a fel aelod o’r Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol yn pryderu dros ddyfodol y campws.

“Cawsom ni e-bost dydd Llun am sgwrs gan y brifysgol ddydd Mercher. Y broblem yw, dyw pob myfyriwr ddim ar y safle dydd Mercher”

“Mae shwt gymaint o boenau, dydy campws Caerfyrddin ddim mor hygyrch. Yn Llanbed, mae modd gerdded dwy funud i ddosbarthiadau. O ran Myfyrwyr Rhyngwladol, mi fydd e’n golygu newidiadau i’w visas ac felly mwy o gostau iddynt” meddai wrth Clonc360.

“ma’ popeth lan yn yr awyr”

O ran yr archif, dywedodd fod myfyrwyr “wedi cael gwybod bydd y llyfrgell yn aros yn Llanbed ond, mae pryderon wedyn sut bydd myfyrwyr cyn gallu cael mynediad at lyfrau”.

“Credu bod hyn wedi cael ei benderfynu misoedd nôl”

“Dwi’n ymwybodol o’r pwysau ariannol gan fod rhai o fy modiwlau wedi cael eu tynnu sydd wedi effeithio ar fy addysg gan fod y cynnwys newydd ’ma ddim yn berthnasol” meddai.

Dweud eich dweud