Arddangos peiriant arloesol i gladdu ceblau trydan yn Llanybydder

Cwmni lleol yn arddangos ffordd amgen i beilonau salw

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
034116FC-D8D0-4EA0-A25C

Llun gan Cefin Campbell AS.

E92DB1A6-DAC7-493C-8398

Llun gan Cefin Campbell AS.

Cynhaliwyd arddangosfa yn Llanybydder ddoe i ddangos sut mae peiriannau modern yn gallu claddu ceblau trydan dan y ddaear.

Dywedodd Cefin Campbell AS,

“Gyda’r dechnoleg yma ar gael, does dim esgus am beilonau mwyach – mae dewis mwy effeithiol a llai niweidiol i’r amgylchedd ar gael. Dyma’r dyfodol o safbwynt cefnogi ynni adnewyddol a gwarchod ein tirwedd unigryw. Diolch i gwmni ATP Cable Ploughing, Pencader am drefnu’r digwyddiad.”

Er bod cwmni ATP Cable Ploughing wedi ei leoli ym Mhencader mae Jason y perchennog yn byw ar fferm Crugywheel yn Rhuddlan ger Llanybydder. Mae Jason yn arbenigo yn y math hwn o dechnoleg ac yn gweithio ar draws Ewrop.

Dywedodd y Cynghorydd Denise Owen,

“Roedd yn gadarnhaol iawn i weld cymaint o randdeiliaid pwysig yno. Rwy’n meddwl y gellid defnyddio’r dechnoleg hon yn lle peilonau i sicrhau bod y ceblau yn cael eu gosod o dan y ddaear. Mae cymariaethau cost rhwng llinellau uwchben a cheblau tanddaearol y mae GreenGen yn eu defnyddio yn seiliedig ar wybodaeth hen ffasiwn iawn. Y cebl y mae GreenGen eisiau defnyddio yw 132kv ar foltedd llawer is, ac mae’r dechnoleg aredig cebl yn llawer mwy effeithlon.

Os gallwn gael fframwaith asesu annibynnol ar gyfer cymharu costau ceblau tanddaearol/uwchben, gallwn wedyn graffu’n briodol ar honiadau’r cwmnïau hyn bod gosod ceblau o dan ddaear yn “rhy ddrud.”

Mewn datganiad gan gwmni ATP Cable Ploughing, dywedwyd,

“Rydym wrth ein bodd yn rhannu bod aradr cebl arloesol ATP ar gyfer gosod ceblau a phibellau foltedd uchel mewn lleoliadau amaethyddol wedi cael sylw yn ddiweddar!

Mae ein dewis amgen amgylcheddol sensitif ac esthetig yn lle llinellau uwchben yn ennill cydnabyddiaeth am ei ddull arloesol yn y diwydiant.

Drwy ddarparu ateb mwy cynaliadwy, rydym nid yn unig yn sicrhau bod trydan ac adnoddau’n cael eu darparu’n effeithlon ond hefyd yn cadw harddwch tirweddau gwledig.

Rydym yn falch o arwain datblygiad technolegau aredig a hyrwyddo cysylltiad mwy gwyrdd â’n ffynhonnell ynni yn y dyfodol.”

Roedd tua 150 o bobl yn y digwyddiad ddoe yn cynrychioli pob math o gwmnïau peirianyddol, y Grid Cenedlaethol, byrddau trydan, llywodraeth Cymru a chwmnïau ynni fel Bute Energy.  Roedd pob un â diddordeb mewn ffyrdd amgen o gario ceblau trydan yn lle peilonau.

Dweud eich dweud