Arddangosfeydd Haf Canolfan Cwiltiau Cymreig, Llanbedr Pont Steffan

‘Merri go Rownd!’, ‘Calonnau a Blodau’ a ‘Gwrthrychau mewn Sgyrsiau’

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_9250-2

Jen Jones gyda Rhys Bebb a Shân Jones, Maer a Maeres Llanbed yn Agoriad ‘Merri go Rownd!’ 9fed Mawrth

IMG_9055-1

Canolbwynt yr arddangosfa ‘Merri Go Rownd!’ yw’r cwiltiau mawr arddangosir ar waliau sy’n cylchdroi’n araf deg yng nghanol Oriel 1.

IMG_9054

Rhai o’r cwiltiau yn cael eu harddangos mewn siâp pebyll yn hongian o’r nenfwd yn Oriel 1.

IMG_9050-1

Arddangosfa o rhai o gwiltiau Mary Jenkins yn rhan o’r arddangosfa ‘Merri go Rownd!’

IMG_9064-1

Arddangosfa ‘Calonnau a Blodau’ – gwaith crefft Janet Haigh

IMG_9040-1

Arddangosfa ‘Gwrthrychau mewn Sgyrsiau’ – gwaith crefft Julia Griffiths Jones

Ydych chi wedi gweld arddangosfa ddiweddaraf Jen Jones, ‘Merri go Rownd! Cwiltiau Cymreig hen a  newydd’ eto? Agorwyd yr arddangosfa gan Jen Jones yng nghwmni’r Maer, Y Cynghorydd Rhys Bebb Jones a’r Faeres Mrs Shân Jones a gwesteion eraill prynhawn Gwener 9fed Mawrth. Cynhelir yr arddangosfa yn Oriel 1 a bydd cyfle i’w gweld hyd ddydd Sadwrn 2ail Tachwedd. Mae’n werth ei gweld a rhyfeddu fel gwnes innau yn yr Agoriad at y casgliad sylweddol o wahanol gwiltiau o bob maint, yn lliwiau llachar a phatrymau cywrain. Canolbwynt yr arddangosfa yw’r cwiltiau mawr arddangosir ar waliau sy’n cylchdroi’n araf deg yng nghanol Oriel 1. Yr un mor drawiadol yw’r cwiltiau sy’n hongian mewn cylchoedd siâp pebyll o’r nenfwd. Syniadau mor fentrus a chlyfar! Mae mor hawdd gweld a rhyfeddu at y cwiltiau mawrion a bron a pheidio sylwi ar y cwiltiau bychain sydd â chyfraniad yr un mor allweddol i’r arddangosfa. Mae’n werth oedi a sylwi megis ar y cwiltiau sy’n addurno’r ‘ystafell fechan’ i’r dde o’r fynedfa i mewn i Oriel 1. Mae’n wledd i’r llygaid gweld y casgliad o rai o gwiltiau hanesyddol Mary Jenkins a darllen am ei hanes a’r ysbrydoliaeth yn ei gwaith. Diolch yn fawr i Jen Jones a’i thîm am drefnu a chynnal arddangosfa arbennig arall eto eleni sy’n dod a sylw’r byd i’w chasgliadau hynod o gwiltiau Cymreig, i’r Ganolfan Gwiltiau, i dref Llanbed a Sir Ceredigion.

Mae’n werth ymweld hefyd a rhyfeddu at waith celfydd Janet Haigh a’i harddangosfa ‘Calonnau a Blodau – Hearts and Flowers’. Dyma waith aml gyfrwng yn cynnwys defnyddio brethyn, edau ac edafedd, cerameg, metel a phapur i gynhyrchu gwaith llaw liwgar a thrawiadol. Mae arddangos gwaith a wnaed dros gyfnod o bum mlynedd ar hugain. Mae’n arddangos gwaith crefft gywrain sy’n dweud stori wrth ddangos hefyd datblygiad celfyddyd Janet Haigh.

Peidiwch ag anghofio ymweld â’r oriel ar y llawr gwaelod cyn dychwelyd i’r siop, ple cewch fwynhau gwaith celf Julia Griffiths Jones. Cefais fy nghyfareddu yma eto gan waith crefft gyffrous ac unigryw. Mae’n waith aml gyfrwng sy’n defnyddio brethyn, enamel a metel i gynhyrchu gwaith amryliw ar ffurf eitemau megis jygiau, jariau, potiau ac eitemau cegin megis llwyau a chwisgiau. Mae’n wledd i’r llygaid, yn werth eu gweld a’r gwaith ar werth.

Cymerwch y cyfle i weld yr arddangosfeydd yn Llanbedr Pont Steffan yr haf hwn. Cewch mwy o wybodaeth am yr arddangosfeydd a’r Ganolfan Cwiltiau ar eu gwefan:

https://www.welshquilts.com/