Arolwg Preswylwyr Cymunedau Cynaliadwy Llambed

Cymunedau Cynaliadwy yn cynnal arolwg o breswylwyr Llambed ar ba gefnogaeth sydd angen arnynt

gan Mari Lewis
Arolwg Preswylwyr Llambed

Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn cyflwyno prosiect o’r enw ‘Cymunedau Cynaliadwy’ yn Llambed sy’n ceisio mynd i’r afael ag unigrwydd, tra hefyd yn cefnogi pobl leol i aros yn annibynnol a byw yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd.

Maent eisoes yn cynnal boreau cymdeithasol wythnosol ym Mrondeifi yn Llambed, bob dydd Mawrth rhwng 10am a 12:30pm sy’n rhad ac am ddim – mae croeso i chi alw i mewn a gwahodd eich ffrindiau a’ch teulu hefyd! O fis Awst ymlaen, mi fydd y boreau cymdeithasol yn parhau i ddigwydd pob bore dydd Mercher, rhwng 10am a 12:30!

Mae Mari Lewis, Cydlynydd y prosiect, bellach yn cynnal arolwg o drigolion lleol i geisio darganfod beth yw eu hanghenion a sut y gall eu cefnogi. Felly, beth am i chi dreulio 5 munud o’ch amser yn llenwi’r holiadur hwn, naill ai ar ffurf papur, lle mae copïau ar gael yn Llyfrgell y dref, yn W.D Lewis a’i Fab neu yn Swyddfa CAVO, neu gallwch hefyd ei gwblhau ar-lein (dyddiad cau 31ain Gorffennaf) trwy ymweld â’r ddolen yma:

Cymraeg: https://www.smartsurvey.co.uk/s/FWLYKP/

Saesneg: https://www.smartsurvey.co.uk/s/7AT1TV/

Cam nesaf y prosiect fydd sefydlu grŵp o wirfoddolwyr i gefnogi unigolion mewn angen. Gallai tasgau’r gwirfoddolwyr gynnwys helpu gyda siopa, rhoi lifftiau i apwyntiadau, cynorthwyo gyda thasgau ysgafn yn y cartref, casglu presgripsiynau, cerdded cŵn, neu hyd yn oed cael sgwrs gyfeillgar dros de.

Mari Lewis yw’r Cydlynydd Cymunedau Cynaliadwy penodedig yn Llambed ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech siarad â Mari, cysylltwch â hi ar 07386 684069 neu e-bostiwch mari.lewis2@wales.nhs.uk.