Yr Aurora yn goleuo awyr Llanbed

Neithiwr, bu gweithgaredd yr Aurora yn amlwg yng Nghymru, gan gynnwys yn Llanbed.

gan Ifan Meredith

Tybed a welsoch chi olau llachar gwyrdd a phinc yn yr awyr neithiwr?

Yr enw ar y golygfeydd hyn yw’r Aurora Borealis sydd yn gymharol gyffredin i weld ym mhegwn y gogledd ond llwyfan y sioe neithiwr oedd Cymru.

Beth sy’n achosi’r lliwiau llachar i ymddangos yn yr awyr?

Goleua’r awyr yn sgil gwyntoedd solar sydd gyda gronynnau wedi’u gwefru (charged particles) o’r haul yn gwrthdaro â nwyon yn yr atmosffer gan greu golygfeydd amryliw uwchben. Yn ôl gwyddonwyr, mae’r gronynnau yma wedi teithio dros 150 miliwn cilomedr yn y gofod i’r pegynau ar y ddaear.

Yr Aurora ar waith yng Ngwlad yr Iâ.

Ym mis Hydref llynedd, bues i ar daith i Wlad yr Iâ lle brofais ychydig o’r goleuadau gwyrdd yn ymddangos ger y lan yn Reykjavic. Roedd yr olygfa yn un bythgofiadwy ond, braf oedd gwylio’r sioe neithiwr adref.

A welsoch chi’r golygfeydd neithiwr? Beth am rannu eich lluniau ar y blog byw hwn?

Os na fuoch ddigon ffodus neithiwr, mae gobaith i weld yr Aurora heno eto gyda’r gweithgarwch geo-magnetig yn sylweddol uchel (tua 7.00KP am 22:00). Mae’r raddfa geo-magnetig yn amrywio o 0-9 gyda 9 yn cyfleu storm solar gryf iawn sy’n arwain at bosibilrwydd o weld goleuadau’r gogledd.

14:39

65fc75e0-645d-4ffa-bd41-71429f4d179f

Lleoliad : Penbryn, Llanbed

Toc cyn 1 yb 11.5.24.