Ydych chi’n chwilio am noson mas, i fwynhau cerddoriaeth fyw yn yr Iaith Gymraeg, creadigaethau coginio bendigedig ac awyrgylch gymdeithasol, hamddenol?
Caffi Granny’s Kitchen yw’r lleoliad delfrydol i wneud hyn ar Nos Sul 9fed o Fehefin 2024 o 6-8yh. Trefnir y noson wefreiddiol hon yng nghwmni Rhiannon O’Connor.
Cantores o Ffarmers yw Rhiannon. Mae’n ymroi i holl ystod o ganeuon gwerin traddodiadol a’u gweddnewid a’u cydblethu i adrodd straeon bywyd.
Daeth Rhiannon i’r brig ym mrwydr y bandiau gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yna fe berfformwyd set o ganeuon gwreiddiol i’r beirniaid Gwilym Bowen Rhys a Lleuwen Steffan.
Mae’i cherddoriaeth hudolus yn atsain o’i phrofiad a’i hangerdd fel Cymraes cefn gwlad heddiw.
Trefnydd y noson yw perchennog Granny’s Kitchen sef Mrs Lilian Ramirez,
“Rwy’n edrych mlaen i’r noson Gymreig,”
meddai.
“Mae’n amser heriol ar bob busnes yn Llanbed. Mae llai’n ymweld â chaffis oherwydd yr argyfwng costau byw yn ogystal â phrisiau cynhwysion coginio yn codi’n aruthrol. Rhaid i ni feddwl am ffyrdd creadigol o ddenu pobl. Mae’r digwyddiad yn ddathliad o ddiwylliant yr ardal ac i’w fwynhau gan bawb o bob oed a chefndir.”
Lleolir Granny’s Kitchen ar y Stryd Fawr gyferbyn ag adeilad eiconig Neuadd y Dref ers talwm, a phellter cerdded byr o gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant – parcio am ddim ar ôl ôl 6yh.
Felly dewch yn llu!