Blog Byw Eisteddfod Ysgol Bro Pedr: dydd Mawrth

Y diweddaraf o Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024 Pa dŷ fydd ar y blaen? Creuddyn, Dulas neu Teifi?

gan Ceris Mair Jones

Croeso i flog byw Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024. Bydd hynt a helynt dau ddiwrnod brwd o gystadlu’n ymddangos ar y dudalen hon…

15:17

Ar ddiwedd diwrnod brwd o gystadlu yma ym Mro Pedr dyma’r pwyntiau:

Dulas – 85

Teifi – 71

Creuddyn – 73

Cystadleuaeth agos iawn yw hi! Llongyfarchiadau mawr i bawb heddi! Edrych ymlaen at ddiwrnod llawn cystadlu yfory. Pob lwc i bawb!

15:10

Canlyniad olaf prynhawn Mawrth o Eisteddfod Ysgol Bro Pedr – Parti Bechgyn

1af – Dulas

2il – Teifi

3ydd – Creuddyn

15:03

Cystadleuaeth olaf Dydd Mawrth – y Parti Bechgyn.

Llongyfarchiadau i’r tri tŷ am gyflwyno dehongliadau gwych o’r anthem o gân Yma o Hyd gan Dafydd Iwan.

14:50

Canlyniad y Parti Merched

1af – Dulas

2il – Creuddyn

3ydd – Teifi

Llongyfarchiadau mawr!

14:41

Ail ganlyniad llwyfan y prynhawn – Stori a Sain

1. Beca a Trystan, Dulas

2. Teleri a Rhun, Teifi

3. Megan a Guto, Creuddyn

14:34

Canlyniad cyntaf o’r llwyfan – yr unawd offerynnol.

1af – Alma, Teifi

2il – Harri, Dulas

3ydd – Mair, Dulas

14:26

Partïon merched y tri tŷ newydd berfformio. Detholiadau gwych o gân Huw  Chiswell – Dwylo Dros y Môr. 

14:21

Ail gystadleuaeth prynhawn Mawrth – y stori a sain. Llond lle o chwerthin! 

14:19

Cystadleuaeth cyntaf y dydd – yr Unawd Offerynnol. Am dalent gydag 17 yn cystadlu’n y rhagbrawf! Daliwch ati bawb! 

14:15

Y neuadd dan ei sang a Mrs Gregson yn croesawu pawb i’r Eisteddfod. Pob lwc i bawb!