Blog Byw Eisteddfod Ysgol Bro Pedr: dydd Mawrth

Y diweddaraf o Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024 Pa dŷ fydd ar y blaen? Creuddyn, Dulas neu Teifi?

gan Ceris Mair Jones

Croeso i flog byw Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024. Bydd hynt a helynt dau ddiwrnod brwd o gystadlu’n ymddangos ar y dudalen hon…

14:34

Canlyniad cyntaf o’r llwyfan – yr unawd offerynnol.

1af – Alma, Teifi

2il – Harri, Dulas

3ydd – Mair, Dulas

14:26

Partïon merched y tri tŷ newydd berfformio. Detholiadau gwych o gân Huw  Chiswell – Dwylo Dros y Môr. 

14:21

Ail gystadleuaeth prynhawn Mawrth – y stori a sain. Llond lle o chwerthin! 

14:19

Cystadleuaeth cyntaf y dydd – yr Unawd Offerynnol. Am dalent gydag 17 yn cystadlu’n y rhagbrawf! Daliwch ati bawb! 

14:15

Y neuadd dan ei sang a Mrs Gregson yn croesawu pawb i’r Eisteddfod. Pob lwc i bawb! 

10:32

Mae rhagbrofion y bore wedi dechrau. Pob lwc i bawb!