Pen-blwydd Hapus yn 50 oed!

Dewch i’r Mulberry Bush, Llanbed i ddathlu

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_0081

Poster yn tynnu sylw at yr arddangosfa (28/05 – 06/07/24 yn y Mulberry Bush) o luniau sydd yn olrhain hanes y siop dros yr hanner canrif

IMG_0080

Tìm y Mulberry Bush yn 2024 yn deulu a staff. Cewch yn y rhes flaen o’r chwith i’r dde Stella, Smudger, Josie ac Andy

IMG_0075

Andy a Stella yn y siop gyda’r dewis eang o fwydydd a nwyddau sydd ar werth

IMG_0077

Andy a Stella o flaen siop y Mulberry Bush, 2 Heol y Bont, Llanbed

IMG_0095

Ail agor y Mulberry Bush yn 2007 wedi gwaith adnewyddu sylweddol ar yr adeilad

IMG_0096

Y Mulberry Bush yn 1995 yn dathlu’r 21ain ers sefydlu’r siop yn 1974

Mae’r Mulberry Bush yn cyrraedd carreg filltir bwysig eleni – mae’n dathlu hanner can mlynedd ers ei sefydlu yn 1974 gan Josie a Smudger Smith. Dyma fusnes teuluol sydd erbyn heddiw’n siop iechyd, bwydydd cyflawn ac organig gyda chaffi llysieuol ac oriel arddangos ar lawr cyntaf yr adeilad ar Heol y Bont. Mae’n gyrchfan i’r byd a’r betws gyfarfod am glonc, derbyn gwybodaeth a chyngor ac wrth gwrs prynu pob math o fwydydd, diodydd a meddyginiaethau amgen.

Symudodd y cwpwl i Lanbed yn Awst 1973 gyda’u plant Sam oedd yn ddwy flwydd oed a Stella oedd yn dair wythnos oed ar y pryd. Mi wnaethant syrthio mewn cariad gyda phobl, cymuned a thref Llanbed a phenderfynu mai yma fyddai eu cartref yn dilyn treulio sawl blwyddyn yn crwydro’r byd a’r ddwy flynedd olaf cyn dod i Lanbed yn Kabul, prifddinas Afghanistan. Deallais gan Josie iddynt gael y weledigaeth o sefydlu busnes fyddai’n darparu a gwerthu bwydydd maethlon ac yn annog pobl i fyw yn iach. Yr un gwerthoedd sydd wrth wraidd y busnes heddiw a’r genhedlaeth nesaf sef eu merch Stella a’i gŵr Andy yn rhan bwysig o’r busnes. Er mai busnes yw’r Mulberry Bush yn y bôn, mae hefyd wrth galon y gymuned sy’n ymweld â’r siop yn rheolaidd oherwydd y gwasanaeth a’r gofal arbennig a gynigir i gwsmeriaid. Caf groeso cynnes pob tro yr af i’r siop, y teimlad fy mod yn ymweld â theulu oherwydd yn aml mae’r ymweliad yn gyfle am sgwrs a rhoi’r byd yn ei le wrth chwilota’r silffoedd ar ôl silffoedd am fwydydd ac eitemau i’w prynu.

Mae dathlu’r Aur yn nodi llwyddiant a balchder Josie, Smudger, Stella, Andy a gweddill y teulu a’r holl staff yn sicrhau bod y siop hon yn parhau i ffynnu ers hanner can mlynedd. Mae tref Llanbed a’r ardal gyfagos hefyd yr un mor falch o lwyddiant y Mulberry Bush a’i bod yn rhan annatod o fusnesau, economi, diwylliant a threftadaeth De Ceredigion a Gogledd Sir Gâr. Mi fydd yna ddathlu’r hanner cant yn deulu, yn gymuned ac yn siop a’r dathliadau’n cynnwys:

– Arddangosfa o ffotograffau yn yr Oriel yn olrhain hanes a datblygiad y Mulberry Bush dros hanner can mlynedd – mae’n cychwyn ddydd Sadwrn 25ain Mai.

– ‘Parti Pen-blwydd’ ddydd Sadwrn 1af Mehefin yng Nghaffi’r Mulberry Bush rhwng 3.00 a 6.30 o’r gloch y prynhawn.

– Bydd cyfle o ddydd Llun 3ydd hyd ddydd Sadwrn 8fed Mehefin i’w cwsmeriaid dderbyn pob math o eitemau am ddim gan ddiolch i gyflenwyr y siop am eu caredigrwydd.

– Cerddoriaeth fydd yn rhan o’r dathliadau prynhawn Sadwrn 8fed gyda Smudger ac Ali (‘Eklektika’) yn perfformio rhwng 1.30 a 3.00 o’r gloch.

Bwriedir cynnal digwyddiadau eraill hefyd eleni yn rhan o’r dathliadau. Os am ychwaneg o wybodaeth am y dathliadau a’r Mulberry Bush, ewch i’w gwefan: www.mulberrywholefoods.co.uk

Mae’r Mulberry Bush yn edrych ymlaen at eich gweld yn y siop sydd yn 2 Heol y Bont, Llanbed. Llongyfarchiadau i’r Mulberry Bush a phob dymuniad da oddi wrth Clonc360 a Phapur Bro Clonc.