gan
Dylan Lewis
![IMG_1176](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/9/2024/05/IMG_1176-640x396.jpeg?a)
Mae byrst ar hen bibell ddŵr mewn cae yng Nhellan yn effeithio ar gyflenwadau dŵr yr ardal unwaith eto.
Dywedodd un o bobl y pentref bod hyn wedi digwydd sawl gwaith o’r blaen a than bydd Dŵr Cymru yn adnewyddu’r hen bibell, bydd y broblem yn parhau.
Cyrhaeddodd dau dancyr y pentref bore ma er mwyn llenwi’r cyflenwad dŵr dros dro tan bod tîm arall yn ceisio dod o hyd i’r nam a thrwsio’r bibell.
Ceir datganiad ar wefan Dŵr Cymru,
“Rydym yn ymwybodol o fyrst ar ein rhwydwaith sy’n effeithio ar y cyflenwad dŵr i’r ardal hon. Hyd nes y bydd y bibell wedi’i thrwsio, efallai y bydd pwysedd eich dŵr yn isel neu efallai na fydd dŵr o gwbl.”