Cadeirydd Clonc yn nabod ei wraig yn dda iawn

Cafwyd noson o chwerthin yng Nghlwb Rygbi Llanbed neithiwr yn noson Siôn a Siân Sioe’r Cardis

gan Elliw Dafydd
IMG_5636

A hithau’n gyfnod y cariadon, trefnwyd noson Siôn a Siân i godi arian i Apêl Sioe’r Cardis 2024 yng Nghlwb Rygbi Llanbed neithiwr. Cafwyd noson llawn chwerthin a hwyl dan arweinyddiaeth medrus y double act, Mared Rand Jones ac Emyr Lloyd. Y chwe chwpl oedd Iona ac Ifan, Maesllyn, Catrin, Dere i Dorri a Gary, Carys a Dylan, WD Lewis, John a Menna, Ffair Rhos, Carwen a Hefin, Llanllwni, a Llywydd Sioe’r Cardis, Denley a’i wraig, Brenda.

Rydym, ni fel cynulleidfa wedi dysgu llawer am y cyplau, megis pa liw ydy llygaid Catrin (er bo Garry ddim callach!), pa gân cafodd ei chanu ym mhriodas Iona ac Ifan (neu ddim), bod Mary Maesglas yn gwybod fwy am John na Menna, bod gan Carwen dros 25 o bare o sgidie, bod gan Denley feddwl mawr o Holly Willoughby, ac os ydych eisiau cogydd i goginio cinio dydd Sul, Dylan yw’r boi.

Enillwyr y pryd 5 cwrs rhoddedig gan Gwesty’r Falcondale, Llanbed oedd Dylan a Carys Lewis. Gobeithio na fydd bananas ar y fwydlen!