Diane White dw i. Dw i’n byw ym Mhencarreg. Bob Dydd Mercher, dw i’n cael gwersi Cymraeg yng Nghanolfan Creuddyn, Llambed. Gwyneth Davies yw fy nhiwtor i. Dw i wedi ysgrifennu ychydig am fy niddordebau. Un peth dw i wedi bod yn gwneud ar hyd y blynyddoedd yw casglu pethau. Pan o’n i`n ifanc, ro’n i`n casglu stampiau, pensiliau, bathodynnau a theganau llygod. Roedd fy ngŵr yn hoffi casglu hen boteli ac yn aml, ro’n ni’n mynd i gloddio poteli.
Ro’n ni hefyd yn hoffi mynd i`r llyfrgell i astudio hen fapiau fel ein bod ni’n gwybod ble i fynd. Roedd diddordeb gyda fi mewn potiau hufen Fictorianaidd. Felly dechreuais i eu casglu nhw. Dw i wedi casglu dros 300 o botiau hufen erbyn hyn. Cafodd y potiau eu cloddio neu eu prynu mewn ffeiriau hen bethau ledled y wlad.
Nawr dw i`n mwynhau dawnsio llinell a dw i’n mynd bob wythnos. Hefyd dw i’n mwynhau chwarae’r recorder, ond dim ond yn y tŷ. Dros y gaeaf, dw i`n gwneud llawer o wau ar gyfer y teulu ac i fi fy hun. Pan ddaw’r gwanwyn, bydda i’n dechrau garddio eto. Gobeithio bydd e yma’n fuan felly er mwyn i mi allu dechrau ar un arall o fy niddordebau!